
Cyflwynwyd gan Bwyllgor Cymru Puja
Disgwyliwch wledd o gerddoriaeth, goleuadau, lliw, barddoniaeth a dawns wedi’u cyflwyno mewn arddull theatraidd gyda sylwebaeth ac arddangosiad gweledol.
Dwy seren lachar yn ffurfafen ddiwylliannol Bengal, y lleisydd amryddawn Sounak Chattopadhyay a’r adroddwr rhyfeddol Samya Karpha, wnaeth ffurfio ‘Shotoborsho Pore’.
Dyma ddathliad canmlwyddiant gorfoleddus o Brifysgol Visva Bharati a’i sylfaenydd, yr enwog Rabindranath Tagore, gyda chân, dawns, a llefaru yn cynnwys artistiaid lleol ac o India.