Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue
Sinfonia Cymru - Curate 1: Enchant
Cancelled

Sinfonia Cymru - Curate 1: Enchant

Iau 26 Maw
Seligman Studio

Gan ystyried gwahanol genres o ddechau’r 1900au hyd heddiw, mae’r gerddoriaeth yma’n rhannu un peth cyffredin: mae’r cyfan yn dwyllodrus o syml. Caiff y gwrandawyr eu gwahodd i brofi noson o gerddoriaeth syfrdanol sydd wedi’i dylunio i hudo a dal sylw. Yn wasgaredig ond yn rymus, yn onest ond yn deimladwy; dyma gerddoriaeth sy’n cyfarch ac yn iacháu’r enaid.

Yn cynnwys cerddoriaeth gan Steve Reich, Anna Meredith, Messiaen, Arvo Pärt, Anna Clyne a Janáček.

Wedi’i guradu gan y sielydd Stephanie Tress

 

Curate - Mae cerddorion o Sinfonia Cymru, prif gerddorfa gwledydd Prydain i bobl o dan 30 oed, yn creu ac yn cyflwyno pedwar cyngerdd sy’n eich gwahodd i gymryd amser, mwynhau symlrwydd bywyd, dathlu perthnasau ac archwilio’r hyn sydd mewn perygl!

23 Ebrill, 8.00pm: Curate 2: Spiritual Borderlands

28 Mai, 8.00pm: Curate 3: Endangered

25 Mehefin, 8.00pm: Curate 4: Two Nations Tango

Prisiau:

£14.00 (£12.00, £8.00, £3.00 concs)

Tocynnau ac Amseroedd