
Sinfonia Cymru yn cylfwyno CURATE: ‘That’s Not Very Ladylike!’
“That’s not very ladylike!” Dyna’n union ddywedodd un aelod o gynulleidfa ar ôl gweld y fiolinydd Katie Foster yn chwibanu. Ysbrydolwyd Katie i ddechrau archwilio beth mae bod yn ‘ladylike’ yn ei olygu ym myd cerddoriaeth, ac mae hi’n barod i ddatgelu’r cyfan!
Wrth i ni droi ein sylw at gyfansoddwyr ac artistiaid benywaidd sydd wedi torri drwy’r rhwystrau dros y blynyddoedd, mae’r rhaglen hon yn chwalu’r stereoteipiau rhyw a genre fel ei gilydd. Cewch eich cludo ar daith sy’n cynnwys cerddoriaeth glasurol, jazz a gwerin. Eisteddwch yn ôl, ymlaciwch, a mwynhewch. #girlpower