
"Ddeng mlynedd yn ôl mi ddes i ar draws cyfweliad lle'r oedd ffidlwr gwerin yn disgrifio 'dawns goll, marwnad i un fenyw i goffáu marwolaeth Llywelyn ein Llyw Olaf.'
Mae Morfa Rhuddlan wedi dod i'r golwg yn sgil fy ymgais i gael hyd i'r 'ddawns goll' hon."
Coreograffydd o Aberystwyth yw Siriol Joyner. Mae’n ddwl obsesedig â iaith a’i pherthynas â dawnsio. Cwblhaodd Siriol Radd Feistr Celfyddyd Gain mewn Coreograffi ym Mhrifysgol y Celfyddydau Stockholm yn 2018.
Gwe 15 Tach, Gwe 6 & Gwe 20 Rhag