
IDRISSA CAMARA & Team Nimba
Mae’r dydd yn torri ym Mharc Bute, ar lan yr Afon Taf a’r pandemig yn ei anterth, ac mae dyn toredig o Affrica yn dechrau strymio’n eneidiol gan ganu er mwyn ailgysylltu â’i wreiddiau ysbrydol...
Mae SPIRIT OF NIMBA yn stori galonogol am oroesi, wedi’i hadrodd drwy gynhyrchiad dawns llawen sy’n cyfuno traddodiadau Affricanaidd gyda dawns stryd drefol. Gyda thrac sain gwreiddiol yn gefndir, mae’r sgôr fyw yn cyfuno ffidil, drymiau a llais gyda rhythmau a gwreiddiau Gorllewin Affrica ar y kora, bolom a djembes.
IDRISSA CAMARA a Thîm Nimba – dawnswyr Eddie Amoateng Manu, Ofelia Balogun, Kim Noble a cherddorion Mark O’Connor, Lucy Rivers a Suntou Susso – sy’n cyflwyno sioe newydd sy’n sicr o lonni’r galon!
“Lleisiau fy nghyndadau a achubodd fi yn ystod diwrnodau tywyllaf y cyfnod clo. Y sioe yma yw fy ngalwad i bawb am bwysigrwydd dathlu llawenydd pur bod yn fyw!” IDRISSA CAMARA.
Please note, Saturday's matinee is a relaxed performance. With increased lighting level and reduced sound level, relaxed performances are suitable for children and adults on the autism spectrum or with learning disabilities, and their families, friends and carers. Everyone welcome!
Ganwyd Idrissa Camara yn Guinea Conakry yng Ngorllewin Affrica ac fe hyfforddodd yn ifanc gyda’r enwog Ballet Bassikolo de Guinee. Yn 2010, sefydlodd yr unig gwmni dawns proffesiynol Du yng Nghymru, Ballet Nimba, sydd wedi teithio ledled Cymru a’r tu hwnt gyda chynyrchiadau dawns a cherddoriaeth Affricanaidd traddodiadol.
Dawnsiwr yw Edward Amoateng Manu (Eddie Amb) sy’n pontio’r bwlch rhwng arddulliau dawns Affricanaidd modern a thraddodiadol i greu cyfuniad ffrwydrol. Mae wedi perfformio a chreu coreograffi ar gyfer llawer o artistiaid Affricanaidd modern yr oes hon, o Wizkid i Mr Eazi.
Dawnsiwr ac artist symud Eidalaidd-Nigeraidd yw Ofelia Balogun a raddiodd o Brifysgol Roehampton. Mae hi wedi gweithio gyda Theatr Ddawns Irie!, ac mae’n arbenigo yn Nawns Affricanaidd ac AffriCaribiaidd y Diaspora, Arddulliau Dawns Gyfoes a Dawns Drefol.
Hyfforddodd Kim Noble yn Ysgol Dawns Gyfoes Gogledd Lloegr, ac mae’n artist dawns llawrydd sy’n byw yng Nghaerdydd. Mae Kim yn dawnsio i goreograffwyr a chwmnïau amrywiol ynghyd â chyd-gynhyrchu a chreu coreograffi ar gyfer cwmni theatr dawns Cywaith Kitsch & Sync.
Drymiwr/cerddor taro o Gaerffili yw Mark O’Connor, sy’n recordio gyda nifer o fandiau, artistiaid a chynyrchiadau theatr o Gymru, yn amrywio o jazz a gwerin i ôl-roc a Lladinaidd. Mae hefyd yn diwtor yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac yn arweinydd cerddoriaeth cymunedol.
Cerddor, awdur, cyfansoddwr a pherfformiwr yw Lucy Rivers sydd wedi gweithio i’r theatr, radio, gwyliau, ac wedi chwarae a recordio gyda bandiau amrywiol. Mae hi hefyd yn gyd-sylfaenydd y cwmni theatr gig Gagglebabble sydd wedi ennill gwobrau, ac mae’n angerddol am adrodd straeon drwy gerddoriaeth.
Aml-offerynnwr yw Suntou Susso – mae’n chwarae’r Kora, yn offerynnwr taro ac yn gyfansoddwr
o Gambia. Rhyddhawyd ei albwm gyntaf, ‘Kanéfonyo’ (Never Give Up) ym mis Mawrth.
Lluniau: Dave Daggers Photography
Gwen 1 Ebr, Gwen 15 Ebr, Gwen 6 Mai, Gwen 20 Mai, Gwen 3 & Gwen 17 Meh