
Mae Winterlight mewn cydweithrediad â Company of Sirens yn cyflwyno dangosiad cyntaf ar y llwyfan o Stone the Crows gan yr awdur Tim Rhys.
“I got an altar. I call it Walter the Altar…
Together, we watch the dead come creeping out, one by one, till the whole
sky is full of them, gazing down at us, cold as ice.”
Pan fydd natur yn cwrdd â masnach, pa un sy’n drech? Mae’r ddrama rymus yma gan awdur Touch Blue Touch Yellow yn eco-ddameg ar gyfer ein hoes ni, ac yn llawer mwy na hynny hefyd.
Mae Stone the Crows yn sioe rymus a digyfaddawd, a gynhyrchwyd fel ffilm yn ddiweddar dan yr enw Crow, gyda Terence Stamp yn serennu.
Wedi’i chyfarwyddo gan Chris Durnall o Company of Sirens, gyda Boo Golding ac Oliver Morgan Thomas yn serennu, a cherddoriaeth fyw wedi’i chyfansoddi’n arbennig gan Eren Anderson.
"It's Breathtaking...Stone the Crows is a masterpiece of gorgeous brutality and the culmination of everything Company of Sirens has worked to achieve" ★★★★★ Barbara Hughes, Get the Chance
“Chwedl rybuddiol wych am angen dyn i barchu natur a’i hanes hyfryd.” (Hollywood
News, yn trafod ‘Crow’)
“Chwedl iasol anarferol” (Horror Talk)
Ynglŷn â Winterlight
Mae Winterlight wedi cynhyrchu dwy ddrama a ysgrifennwyd gan Tim Rhys, Touch Blue Touch Yellow a Quiet Hands, a dangoswyd y ddwy ddrama a oedd yn trafod awtistiaeth am y tro cyntaf yn Chapter. Dangoswyd y ddrama Matthews Passion am y tro cyntaf yn Theatr y Sherman yn 2013. Mae Tim Rhys yn awdur sefydledig o Gymru, mae’n darlithydd mewn ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae ei waith wedi teithio ledled gwledydd Prydain. Chris Durnall yw cyfarwyddwr Company of Sirens, ac mae wedi cyfarwyddo dros 30 o gynyrchiadau, a pherfformiwyd llawer ohonynt yn Chapter. Eren Anderson gyfansoddodd a pherfformiodd y gerddoriaeth wreiddiol ar gyfer Hitchcock Redux, a gyflwynwyd yn Chapter yn ddiweddar