Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue
Sweet Baboo + Support from Clementine March
Sold Out

Sweet Baboo + Support from Clementine March

Sad 18 Maw

Sweet Baboo yw ego cerddorol y cerddor a’r cyfansoddwr o’r gogledd Stephen Black. Dros ddau ddegawd, mae ei yrfa’n cynnwys rhyddhau chwe albwm, a rheiny wedi cael llawer o ganmoliaeth.

Mae wrthi’n rhoi’r sglein olaf i’w record newydd, y gyntaf ganddo ers dros bum mlynedd, a bydd yn cael ei rhyddhau ddechrau 2023.

Dydy Sweet Baboo heb berfformio’n fyw ers Gŵyl End of the Road 2018, ond nid yw hynny i ddweud nad yw Stephen wedi bod yn brysur. Yn fwyaf diweddar, ym mis Ionawr 2022 bu’n teithio ar ôl rhyddhau ei ail albwm fel Group Listening, sef ‘Clarinet & Piano: Selected Works Vol 2.’ gyda’r pianydd Paul Jones.

Mae’n braf cael Sweet Baboo ’nôl o’r diwedd ar ôl hir aros.

‘Record pop-seic (electronig) wedi’i saernïo’n hyfryd, sy’n mwmian yn gynnes’ cylchgrawn Uncut am Wild Imagination 2017 (Recordiau Moshi Moshi)

“Gyda chyfuniad o ostyngeiddrwydd ac anwyldeb, mae Stephen Black yn ddyn â llais mêl

 

 

Sydd â’r nod o ddod yn Harry Nilsson Eryri." The Times am The Boombox Ballads 2015 (Recordiau Moshi Moshi)

 

Cantores-gyfansoddwraig ac aml-offerynwraig o Ffrainc yw Clémentine March, sy’n cymeriadu’i hunan fel “merch alt-roc yn ei harddegau o’r nawdegau” – ond sydd wedi astudio’r gitâr glasurol ers iddi fod yn ifanc. Yn ystod ei hugeiniau, drwy ei chariad at gerddoriaeth Brasil ymwelodd â’r wlad, lle ymgollodd mewn cerddoriaeth choro, samba a genres traddodiadol Brasil. Mae’n canu mewn pedair iaith – Saesneg, Ffrangeg, Portiwgaleg a Sbaeneg – ac wedi’i dylanwadu gan bopeth o Nirvana i Milton Nascimento, ac mae cerddoriaeth idiosyncratig alawol a llawen wyllt Clémentine yn ymgorffori ei hysbryd crwydrol drwy beidio â chydnabod ffiniau cerddorol, ieithyddol na daearyddol. 

Cafodd ei EP gyntaf, Les Etoiles à ma Porte (Y Sêr wrth Garreg fy Nrws) glod beirniadol gan Clash, The Quietus a For The Rabbits ymhlith eraill, cyn arwain at daith helaeth yn Ewrop yn cefnogi’r band indi roc clodwiw o America, Big Thief. Gan barhau â thraddodiad cyfoethog cerddoriaeth amgen Eingl-Galaidd, o Stereolab i Frànçois & the Atlas Mountains, mae albwm gyntaf Clémentine, Le Continent, yn ei geiriau hi “yn siant ffarwel i fy ngwlad enedigol… ffantasi o swm fy nylanwadau cerddorol, o Frasil i Young Marble Giants – a’r tu hwnt. Mae hefyd yn archwiliad agored o’r byd ac yn gofnod o golled.” 

Prisiau:

£12 

Under 16s must be accompanied by an adult

Tocynnau ac Amseroedd