
Dewch i fod yn rhan o’r gynulleidfa wrth i’r ddigrifwraig glodwiw Rosie Wilby rannu straeon doniol, rhyfedd ac ingol am dorcalon ac adferiad gyda gwesteion arbennig mewn recordiad byw o’i phodlediad poblogaidd. Mae The Breakup Monologues wedi cael ei argymell gan Chortle, The Observer, Metro, TimeOut, Psychologies a llawer un arall, a chafodd ei enwebu am Wobr Podlediad Prydain.
Ers lansio’r sioe ychydig flynyddoedd yn ôl, mae Rose wedi bod yn ymchwilio’n obsesiynol i seicoleg cariad, ac mae hi hyd yn oed wedi cael ei galw’n ‘Queen of Breakups’ gan BBC Radio 4. Mae The Breakup Monologues bellach ar gael fel llyfr, gan gyfuno hiwmor, torcalon a gwyddoniaeth i ymchwilio i sut ar y ddaear mae aros mewn perthynas yn oes fodern ghostio, breadcrumbio a Tinder. Mae Red Magazine wedi’i ddisgrifio fel “gem o lyfr”, a gallwch fachu copi wedi’i arwyddo yn ystod yr egwyl.
Mae holl benodau blaenorol y podlediad ar gael drwy www.podfollow.com/breakupmonologues neu www.breakupmonologues.wordpress.com
Gwesteion Rosie ar y noson yw...
Digrifwraig, awdures ac actores o’r gorllewin yw Eleri Morgan. Mae’n ddoniol, yn annwyl, a braidd yn manig - mae Eleri’n cyfrannu’n rheolaidd ar BBC Cymru, BBC Sesh, BBC Wales a Radio 4.
Actores, cyfansoddwraig, cantores, awdures ac aelod o fand enwog Charlotte Church, Late Night Pop Dungeon, yw Carys Eleri. Addaswyd ei sioe unigol Lovecraft (not the sex shop in Cardiff) ar gyfer BBC Radio 4 ac enillodd y Cabare Gorau yng Ngŵyl Ymylol Adelaide.
Meddyg niwrowyddoniaeth, darlithydd seiciatreg, awdur rhyngwladol clodwiw, Cymro, a digrifwr o dro i dro, yw Dean Burnett. Mae ei lyfr diweddaraf yn archwilio sut mae’r ymennydd yn ymdopi ag emosiynau, gan ganolbwyntio ar berthnasau, diwedd perthnasau, a cholled. Mae wedi bod yn briod y rhan fwyaf o’i fywyd fel oedolyn. Mae un o’i gyn-gariadon bellach yn briod â’i hail wraig – sy’n dangos efallai ei bod hi’n well gyda menywod nag y mae e!
Mae Dan Thomas yn ymddangos yng nghyson o fewn y cylch comedi ym Mhrydain a thu hwnt. Perfformiwyd ardraws Ewrop ac ymddangoswyd ar raglennu teledu fel 'Gwerthu Allan' ar S4C ac 'Stand-Yp', 'Tourist Trap' ar BBC1. Mae yntau hefyd yn actor (pryd mae'r amser galw yn ddigon hwyr) ac wedi'i ymddangos ar y sioe boblogaidd BBC1 fel 'Keeping Faith', 'Casualty' ac 'The Trick'.