
Due the MET office issuing a yellow weather warning in Cardiff, we've had to make the sad decision to cancel the 3 shows of HOOF! on Friday 18 December 2020. All customers have been contacted via email and will be issued with a full refund and as soon as we are able.
Theatr Iolo a Kitsch & Sync yn cyflwyno
HOOF!
Antur hudol i’r goleuadau mawr
Ac o flaen fy llygaid - wel, tawn i’n marw! - llwyfan llawn golau ac un, dau, tri charw! yn dod i’r golwg chwipyn, chwap, ac ar ben hynny’n dawnsio tap!!
Mae tri charw bach yn dod ar draws rhywbeth annisgwyl pan drawan nhw ar hen theatr anghyfannedd yn y goedwig. Mae’r tri sosi’n snwfflian o gwmpas eu darganfyddiad newydd a buan yn eu cael eu hunain yn y goleuadau mawr ac ar lwyfan am y tro cynta un! Fydd tapio carnau’r ffrindiau’n ddigon i roi bywyd o’r newydd i’r hen theatr angof? Ynte gaiff y goleuadau’u diffodd am byth?
Dewch at Theatr Iolo dros y gaea a ninnau’n gweddnewid y man o flaen Chapter yn llwyfan awyr agored hudol â’n theatr deithiol newydd sbon danlli grai. A llwyfannau yng Nghaerdydd yn dal i fod yn dywyll dros y Dolig eleni, does dim dau na fydd Hoof! yn dod â mymryn o oleuni’n ôl i galon eich cymuned leol.
Canllaw oedran: pedair oed a throsodd ond yn addas i’r teulu i gyd!
Hyd y perfformiad: ugain munud
Cofiwch mai yn yr awyr agored o flaen Chapter y mae’r perfformiad, felly lapiwch amdanoch yn gynnes, da chi! Pan gyrhaeddwch chi, rhoddir man sefyll wedi’i farcio i bob grŵp, a dyna lle’r arhoswch chi drwy gydol y perfformiad.
Darllenwch y Canllaw Buddiol i Oedolion yma i gael rhagor o wybodaeth am darfu tywydd mawr ac am sut rydym wedi gwneud y digwyddiad yn ddiogel rhag Covid