Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

Thomas Page Dances: A Moment

Gwen 15 - Sad 16 Gor 2022
Seligman Theater

“Ro’n i’n arfer hoffi dillad, clybiau, prynu recordiau. A dynion. Nawr mae fy mywyd... pa fywyd?” – Moment of Grace, Bren Gosling.

Gan gydbwyso ar y dibyn rhwng cadw’r llawenydd a cholli popeth, mae’r ddeuawd yma’n edrych ar emosiynau cymhleth dau gymeriad sy’n byw drwy argyfwng AIDS yr wythdegau, pan oedd Prydain yn llawn ofn ac anwybodaeth.

Mae A Moment yn dawnsio drwy gysylltiadau clòs dynol, i ffrwydradau o gorfforoldeb wedi’u plethu gyda’i gilydd yn arddull unigryw Thomas Page Dance sy’n llawn ystum, gwyrdroadau, a symudiadau o’r galon, gyda sgôr gywrain gan y cyfansoddwr Robert Singer.

Mae’r darn yn amlygu tebygrwydd rhwng yr wythdegau a heddiw, gan fyfyrio ar beth sydd wedi newid, a’r effaith barhaol mae’r cyfnod hwnnw wedi’i chael ar y gymuned LHDTCRh+.

Mae’r gwaith hefyd yn diolch i’r rhai y gwnaeth hi’n bosib dweud “Dydy HIV ddim yn ddedfryd marwolaeth mwyach”, ac yn sicrhau na chaiff rhan mor bwysig o hanes ei hanghofio.

Ynglŷn â Thomas Page Dances
Sefydlwyd Thomas Page Dances, sef cwmni dawns cyfoes o Rydychen, yn 2016, ac mae’n cyflwyno gwaith y Cyfarwyddwr Artistig Thomas Page a’u cydweithwyr. Mae gwaith creu a pherfformio’r cwmni wedi’i wreiddio mewn syniadau cymdeithasol-wleidyddol, gan greu deialogau gyda’u cynulleidfaoedd a’u cydweithwyr drwy gyffredinolrwydd iaith y corff yn y gobaith o annog newid cymdeithasol cadarnhaol.

Prisiau:

£15, £12.50, £10

Duration: 65 mins (including a post-show discussion)
No latecomers
Age guidance:
14+

-

Hyd: 65 munud (gan gynnwys trafodaeth ar ôl y sioe)
Ni chaniateir cyrraedd yn hwyr
Canllaw oedran:
14+

-

Unallocated seating - please note this event is now sold at full capacity.

COVID safety: You must wear a face mask during the performance (exemptions apply). We have a number of measures in place to ensure that your visit is enjoyable and as safe as possible. Find out more here

Tocynnau ac Amseroedd