
Dymuniad olaf dyn sy’n marw: i’w ffrindiau greu sioe am farwolaeth.
A fydd hi’n gynnil? A fydd hi’n soffistigedig? Na fydd, fwy na thebyg, ond dyma fydd ei angladd. Yn llythrennol.
Mae’r cwmni comedi corfforol sydd wedi ennill sawl gwobr, Ugly Bucket, yn prosesu marwolaeth cyfaill drwy’r unig ffordd maen nhw’n ei gwybod – drwy drobwll cinetig o glownio gwarthus, tystiolaeth bersonol, a thrac sain tecno trawiadol.
“Mae’n gyflym, mae’n ddoniol, ac mae’n plymio’r dyfnderoedd emosiynol yn rhagorol... gwaith cyffrous ac arloesol” The Stage
Ynglŷn â Theatr Ugly Bucket
Cwmni yn Lerpwl yw Ugly Bucket, sy’n cyfuno clownio, cerddoriaeth a thestun gair am air i daclo tabŵs. Mae eu sioeau’n ddoniol, yn gyflym, yn gorfforol, ac yn eich taro yn y bol. Mae eu cynyrchiadau llwyddiannus blaenorol yng Ngŵyl Cyrion Caeredin yn cynnwys Bost-Uni Plues a 2 Clowns 1 Cup. Yn fwy diweddar, cawson nhw eu comisiynu gan HOME Manchester i greu ABC (Anything But Covid) – sydd ar gael i’w wylio ar-lein. Mae Ugly Bucket yn rhan o Raglen Cwmnïau Newydd gan New Diorama ac wedi cael eu disgrifio fel “un o gwmnïau mwyaf ffres y cyrion”.
Rhybudd cynnwys: Mae’r sioe yma’n trafod galar, ac mae’n cynnwys adroddiadau personol am brofedigaeth. Mae pob stori’n cael ei thrin â chariad a pharch, ac wrth rannu’r straeon yma, mae Ugly Bucket a’r lleisiau sydd wedi’u cynnwys yn y sioe yn gobeithio ysgogi sgyrsiau iach ac agored am alar, er mwyn helpu cynulleidfaoedd i deimlo’n llai ynysig.