
Perfformiad rhithiol drwy Zoom
Beth yw teulu? O ble mae'n dod? Allwn ni greu un ein hunain?
Mae Victor a Yorgos wedi gwneud cynlluniau mawr yn ddiweddar, a dydyn nhw ddim yn siŵr a ydyn nhw'n barod. Y cynllun cyntaf yw creu perfformiad gyda'i gilydd, a'r ail yw cael babi...
Mae Unfamiliar at Home yn addasiad o'u gwaith Unfamiliar, ac yn cael ei berfformio yng nghartref yr artistiaid ar Zoom. Mae'r perfformiad hunangofiannol tyner yma'n cyfuno testun, symudiad a gwrthrychau i archwilio teulu, eisiau plant, a bod yn queer heddiw. Beth sydd ei angen arnon ni i fyw y bywyd roedden ni ei eisiau erioed?
Mae'r gwaith wedi'i enwebu am Wobr LUKAS 2019 ac yn ymddangos ar restr fer Gwobr Perfformio Zealous Stories.
Gonest, clòs, yn llawn haenau ac yn hynod emosiynol - Camden New Journal
Wedi'i ddatblygu yng Nghanolfan Gelfyddydau Battersea, The Pleasance, The Marlborough, Applecart Arts a Sefydliad Ffinnaidd Llundain. Fe'i dewiswyd gan gyfres The Works Brighton Dome, lle cafodd gefnogaeth ddramayddol, gyda dangosiad sgratsh yn The Basement a Chanolfan Barbican fel rhan o Fertility Fest. Fe'i cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Lloegr ac Uchel Gomisiwn Cyprus yn y Deyrnas Unedig.
60 mun + 20 mun Holi ac Ateb | 10+ oed | Disgrifiadau Sain a Chapsiynau ar gael
www.victoresses.com/unfamiliarathome