
Wedi’i gyflwyno gan Victor Esses a CASA (mewn partneriaeth â Counterpoint Arts)
Beth sy’n gwneud cartref i chi?
Mae Victor Esses Iddew Libaneaidd, yn Frasiliad, ac yn hoyw. Yn 1975, bu’n rhaid i fam Victor ffoi o Libanus fel ffoadur o’r Rhyfel Cartref. Yn 2017, aeth Victor i Libanus am y tro cyntaf. Yn 2018, yng nghanol yr etholiad lle gwelwyd pobl Brasil yn ethol arlywydd asgell dde eithafol, mae’n teithio o Lundain i São Paulo i ddangos dinas ei blentyndod i’w bartner.
Mae Where to Belong yn stori hunangofiannol dyner a theimladwy am deithiau Victor – archwiliad o sut i ddod o hyd i’ch lle mewn byd cyfoethog a chymhleth o hunaniaethau.
“Rhywbeth a fydd yn aros gyda chi” ★★★★ BritishTheatre.com
Canllaw oedran: 14+
Hyd: 60 munud
Ynglŷn â Victor Esses
Gwneuthurwr theatr ac artist perfformio sydd wedi’i enwebu am wobrau yw Victor Esses, ac mae’n defnyddio straeon, cyfranogiad, amlgyfrwng, a chelf fyw i greu pwyntiau mynediad agored i bwy ydyn ni nawr, a sut gallen ni ddychmygu dyfodol gwell. Mae ei waith blaenorol yn cynnwys celf berfformio, gemau rhyngweithiol, LARP, theatr, cerddoriaeth, barddoniaeth a gosodwaith fideo. Mae’n artist cyswllt gyda Gŵyl CASA, ac mae wedi perfformio, cyfarwyddo ac arddangos gwaith gyda Theatr Arcola, Oriel Whitechapel, y Barbican (Gŵyl Ffrwythlondeb), BAC, Summerhall, The Lowry, Arts Admin, Cambridge Junction, Gŵyl Latitude a mwy.