
Talks
Pwy sy’n dylunio lle? Ar gyfer pwy? A beth sy’n cael ei golli pan fydd yn newid?
Nodweddion
2-4pm | Am ddim, angen archebu
Yn y sesiwn yma sy’n ysgogi’r meddwl, mae Nabil Al-Kinani, awdur o dras Prydeinig-Iracaidd sy’n gweithio ym maes yr amgylchedd adeiledig, yn eich gwahodd i archwiliad dwfn a beirniadol o foneddigeiddio a’i effaith ddinistriol ar ystadau tai cymdeithasol. Yn troi at ei lyfr Privatise the Mandem to Free the Ends (2025), mae Al-Kinani yn dadansoddi gwleidyddiaeth lle—gan archwilio sut mae cymunedau’n cael eu dadleoli, straeon yn cael eu dileu, a hunaniaethau’n cael eu masnacheiddio.
O safbwynt profiad byw, ymchwil, ac ymdrefnu llawr gwlad, mae’r sesiwn yma’n alwad am sofraniaeth, hunangynhaliaeth, a chynnal bywyd cyhoeddus yn nhirweddau trefol Prydain sy’n prysur drawsnewid.
___
Nabil Al-Kinani
Awdur, strategydd, ac ymarferydd gofodol yn Llundain yw Nabil Al-Kinani, y mae ei waith yn eistedd ar y croestoriad rhwng trefoldeb, diwylliant a gwrthsafiad. Gyda chefndir mewn uwchgynllunio graddfa fawr a datblygiad trefol, mae Nabil yn cwestiynu’r systemau sy’n siapio ein dinasoedd – gan ofyn nid yn unig sut caiff llefydd eu creu, ond ar gyfer pwy.
Mae ei ymchwil parhaus yn ymchwilio i themâu creu lle diwylliannol, cyfiawnder gofodol, ac amddiffyn treftadaeth, yn enwedig yng nghyd-destun cymunedau dinesig. Mae ei waith yn rhoi llais i’r rhai sy’n cael eu diystyru, gan hyrwyddo naratifau gwytnwch a pherthyn.
___
Mae’r digwyddiad yma’n rhan o Grenfell: We Stand With You, rhaglen gyhoeddus i gyd-fynd â chyflwyno ffilm Grenfell gan Steve McQueen.
Mae’r daith yma o Grenfell yn cael ei chydlynu gan y Tate mewn cydweithrediad â’r lleoliadau partner, ac fe’i gwnaed yn bosib diolch i gefnogaeth arian cyhoeddus gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Lloegr a gan Art Fund. Bydd pob arddangosiad am ddim, a bydd rhaglen ymgysylltu gyhoeddus gysylltiedig, a fydd yn cynnwys sgyrsiau, gweithdai a digwyddiadau cymunedol gyda chefnogaeth Sefydliad Grenfell.
Times & Tickets
-
Dydd Gwener 6 Mehefin 2025
More at Chapter
-
- Events
We Stand With You – arddangosfa
Mae Common/Wealth yn dod â’r artistiaid Ophelia Dos Santos, Kyle Legall, Vanja Garaj, Gavin Porter, a Jon Pountney ynghyd ar gyfer arddangosfa newydd.
-
- Events
Cofio Gyda’n Gilydd: Tystiolaeth Leoledig a Chyd-atgofion
Sut mae cofio’r trais sydd wedi’n dryllio ni? Yn y gweithdy yma, rydyn ni’n archwilio sut mae atgofion o ddigwyddiadau trawmatig yn aml yn dameidiog, yn ynysig, ac yn cael eu gadael i'r unigolyn eu cario.
-
- Film
Forensic Architecture: The Situated Testimonies of Grenfell
Bydd Forensic Architecture (FA), asiantaeth ymchwil sydd wedi'i lleoli yn Goldsmiths, Prifysgol Llundain, yn dangos dwy ffilm sy'n rhan o'u hymchwiliad ehangach i'r digwyddiadau’n ymwneud â’r tân.
-
- Talks
Cymunedoli — What is it and how can we all be a part of it?: Talk with Leanne Wood & Beth Winter
Leanne Wood and Beth Winter have held a series of community assemblies in the valleys.