
Film
Queer Cinema of the Eastern Bloc: Marble Ass + introduction
- 1995
- 1h 26m
- Former Yugoslavia
Nodweddion
- Wedi’i gyfarwyddo gan Želimir Žilnik
- Tarddiad Former Yugoslavia
- Blwyddyn 1995
- Hyd 1h 26m
- Tystysgrif adv18
- Math Film
Dyma’r ffilm gyntaf o Iwgoslafia gynt i gyfleu cymeriadau LHDTC+ yn agored, ac mae cyfle prin i weld y gwaith radicalaidd yma ar sgrin. Mae Merlinka yn weithiwr rhyw traws lleol ac yn fatriarch ar y gymuned Gwiar leol. Dilynwn Merlinka a’i ffrindiau wrth iddyn nhw geisio tawelu meddwl dynion ifanc sy’n dychwelyd o’r rhyfel gyda rhyw. Dychmygwch John Waters yn cyrraedd Belgrâd, dinas dan warchae rhyfel, sancsiynau economaidd rhyngwladol, troseddu, ac ethno-genedlaetholdeb treisgar, ac yn creu ffilm ddogfen-ffuglen ddoniol gyda’r perfformiwr chwedlonol Vjeran Miladinović sy’n gwneud hwyl am ben gwrywdod tocsig y byd o’u cwmpas. Fe enillodd y ffilm wobr adeg ei rhyddhau, ond prin y mae hi wedi cael ei dangos ers deng mlynedd ar hugain, ac mae hi bellach ar gael drwy Cinema Rediscovered a’r beirniad ffilm o Gaerdydd, Fedor Tot.
More at Chapter
-
- Film
Chapter Moviemaker (adv 18+)
Chapter's monthly showcase of short films and conversations with the filmmakers behind them.
-
- Film
Bad Film Club
Ymunwch â ni mewn dangosiad o erchyllter – fyddwch chi’n methu aros i weld diwedd cyfnod y noson ar ôl hon.
-
- Film
Conclave (12A)
Gan y cyfarwyddwr Edward Berger (All Quiet on the Western Front), mae CONCLAVE yn dilyn un o ddigwyddiadau mwyaf cyfrinachol a hynafol y byd – dewis Pab newydd. Mae Cardinal Lawrence (Ralph Fiennes) yn gyfrifol am redeg y broses gudd yma ar ôl marwolaeth annisgwyl y Pab annwyl. Pan fydd arweinwyr mwyaf pwerus yr Eglwys Gatholig yn cynnull o bob rhan o’r byd ac wedi’u cloi gyda’i gilydd yn neuaddau’r Fatican, mae Lawrence yn sylwi ei fod yng nghanol cynllwyn ac yn darganfod cyfrinach a allai ysgwyd sylfeini’r Eglwys.
-
- Film
Oh My Goodness! (12A)
Mae grŵp o leianod yn rhoi eu bryd ar ennill ras feicio i achub eu hosbis lleol.