Rydyn ni wedi diweddaru ein system docynnau'n ddiweddar.

Read more

Film

SAFAR 2025: A State of Passion + Q&A

  • 2024
  • Palestine

£0 - £9

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan Carol Mansour Muna Khalidi
  • Tarddiad Palestine
  • Blwyddyn 2024
Ar ôl 43 diwrnod erchyll yn gweithio drwy’r dydd a’r nos o dan fomio cyson yn ystafelloedd brys ysbytai Al Shifa ac Al Ahli yn Gaza, mae’r Prydeiniwr Palesteinaidd, y llawfeddyg adlunio Dr. Ghassan Abu Sittah, yn canfod ei hunan yn wyneb ar gyfer gwrthsafiad y Palestiniaid. Drwy luniau newyddion ohono a'i ddisgrifiadau o'r hyn a welodd, rhoddwyd sylw i’r hyn sy’n digwydd wrth i feddygon a chyfleusterau ysbytai gael eu targedu’n fwriadol. Dyma oedd chweched gwrthdaro Ghassan yn Gaza, a’r mwyaf erchyll. Ble mae'n cael y nerth i'w wynebu dro ar ôl tro? Sut mae'n effeithio ar ei deulu? Mae'r ateb, yn syml iawn, yn eu hangerdd nhw i gyd, sef Palesteina. Mae’n angerdd maen nhw'n ei fynegi drwy eu cefnogaeth i'w waith dyngarol peryglus.

Share

Times & Tickets