
Film
September Says (18)
- 2024
- 1h 40m
- Ireland
Nodweddion
- Wedi’i gyfarwyddo gan Ariane Labed
- Tarddiad Ireland
- Blwyddyn 2024
- Hyd 1h 40m
- Tystysgrif 18
- Math Film
Mae July a September yn ddwy chwaer agos iawn, er eu bod yn hollol wahanol – mae September yn amddiffynnol ac nid yw’n ymddiried mewn pobl, tra bod July yn agored ac yn chwilfrydig am y byd. Mae eu mam sengl, Sheela, yn pryderu am eu deinameg ac yn ansicr beth i’w wneud â nhw. Pan fydd September yn cael ei diarddel o’r ysgol, mae July’n gorfod gofalu amdani hi ei hunan, ac yn dechrau ennill ei hannibyniaeth, ac mae September yn sylwi ar hyn. Mae tensiwn yn mudferwi rhwng y tair pan fyddan nhw’n llochesu mewn hen dŷ gwyliau yn Iwerddon, gyda July’n sylwi bod ei chysylltiad â September yn newid mewn ffordd nad yw’n ei deall nac yn gallu ei rheoli, ac mae cyfres o ddigwyddiadau swrealaidd yn herio’r teulu i’r eithaf. Stori dylwyth teg gothig fodern a pherfformiad trawiadol cyntaf gan yr actores Ton Newydd o Wlad Groeg, Ariane Labed, wedi'i haddasu o nofel Daisy Johnson, Sisters.
+ Sesiwn holi ac ateb wedi'i recordio gan Reclaim The Frame ar y dyddiadau canlynol:
Dydd Gwener 28 Chwefror, 4.10pm
Dydd Sul 2 Mawrth, 5.15pm
Dydd Llun 3 Mawrth, 3.40pm
Dydd Mercher 5 Mawrth, 8.15pm
Dydd Iau 6 Mawrth, 8.30pm
___
Elusen yw Reclaim The Frame sy’n eirioli dros safbwyntiau ymylol ym myd y sinema, gan gysylltu â chynulleidfaoedd a chymunedau drwy ddangosiadau arbennig a digwyddiadau ledled gwledydd Prydain.
Mae digwyddiadau Reclaim The Frame yn creu lle i drafod yr hyn sydd dan wyneb pob stori. Os hoffech fod yn Eiriolwr dros y gwaith maen nhw’n ei wneud, ymunwch â rhestr e-bost Reclaim The Frame.
Os yw pris tocyn yn rhwystr, cysylltwch â mail@reclaimtheframe.org gan fod gan yr elusen nifer gyfyngedig o docynnau am ddim sydd ar gael i’r rhai sydd eu hangen.
More at Chapter
-
- Film
Chapter Moviemaker (adv 18+)
Chapter's monthly showcase of short films and conversations with the filmmakers behind them.
-
- Film
Bad Film Club
Ymunwch â ni mewn dangosiad o erchyllter – fyddwch chi’n methu aros i weld diwedd cyfnod y noson ar ôl hon.
-
- Film
Conclave (12A)
Gan y cyfarwyddwr Edward Berger (All Quiet on the Western Front), mae CONCLAVE yn dilyn un o ddigwyddiadau mwyaf cyfrinachol a hynafol y byd – dewis Pab newydd. Mae Cardinal Lawrence (Ralph Fiennes) yn gyfrifol am redeg y broses gudd yma ar ôl marwolaeth annisgwyl y Pab annwyl. Pan fydd arweinwyr mwyaf pwerus yr Eglwys Gatholig yn cynnull o bob rhan o’r byd ac wedi’u cloi gyda’i gilydd yn neuaddau’r Fatican, mae Lawrence yn sylwi ei fod yng nghanol cynllwyn ac yn darganfod cyfrinach a allai ysgwyd sylfeini’r Eglwys.
-
- Film
Ffilm teulu: Wicked Singalong (PG)
Ymunwch a ni am ddangosiad canwch ynghyd o Wicked!