
Film
Sgrewchiwch fel y Mynnwch: Maria (12A)
- 2024
- 2h 4m
- USA
Nodweddion
- Wedi’i gyfarwyddo gan Pablo Larrain
- Tarddiad USA
- Blwyddyn 2024
- Hyd 2h 4m
- Tystysgrif 12A
- Math Film
Mae ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch bob bore Gwener. Maen nhw’n caniatáu i rieni neu ofalwyr â phlentyn o dan flwydd oed weld ffilm heb orfod poeni am amharu ar eraill, a gydag addasiadau i’r amgylchedd sinema i’w gwneud mor gyfleus a chyfforddus â phosib. Mae mynediad am ddim i fabanod, ond cofiwch: dim babi, dim mynediad.
Dangosiadau pellach ar gael i'r hyn heb fabanod. Edrychwch isod am ddangosiadau a digwyddiadau perthnasol.
____
Mae stori gythryblus, brydferth a thrasig un o gantorion opera gorau’r byd, Maria Callas, yn cael ei hail-ddychmygu a’i hail-fyw yn ystod ei dyddiau olaf ym Mharis y saithdegau. Mae Angelina Jolie yn disgleirio yn ffilm empathetig Pablo Larraín, sy’n rhan o’i gyfres glodwiw a gwreiddiol o ffilmiau sy’n archwilio eiconau’r ugeinfed ganrif (Jackie; Spencer). Mewn perfformiad trawsnewidiol, mae Angelina Jolie’n cyfleu’r masgiau byddai’n eu gwisgo i ddelio â’r lefel ddychrynllyd o farnu roedd hi’n ei phrofi gan y byd, gan archwilio’r fenyw eithriadol tu ôl i benawdau’r papurau tabloid.
Yr hyn mae pobl yn ddweud
“Maria is a marvel to look at, unfolding in a Paris lit by pale September sun.”
“Jolie’s broadly theatrical but delicately unraveling performance feels immersive and self-revealing in equal measure, as if Maria Callas is a conduit for her to reclaim her own identity as an artist and a human being.”
Rhaghysbysebion a chlipiau
Dewch â’ch babi i’n dangosiadau ffilm wythnosol o ffilmiau newydd.
Mynediad am ddim i fabanod, amgylchedd ymlaciol, heb angen poeni am darfu - mae ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch ar gyfer rhieni a gwarcheidwaid sydd â babanod o dan flwydd oed.
Cofiwch: Dim baban, dim mynediad!

Digwyddiadur - cipolwg
Gweld ein byw rhaglen ffilmiau a digwyddiadau, gyda chanllaw digwyddiadau byw sy’n darparu gwybodaeth ddiweddaraf amdan y lleoliad, dyddiad, amser a gwybodaeth hygyrch am bob digwyddiad, gan gynnwys ffilm!
More at Chapter
-
- Film
Maria (12A)
Golwg dosturiol ar ddyddiau ola’r gantores opera chwedlonol Maria Callas.
-
- Film
Out of Their Depth: Chinatown (15)
Mae ditectif preifat yn L.A. y tridegau yn cael ei ddal mewn gwe o lygredigaeth.
-
- Film
The Girl With The Needle (15)
Stori dylwyth teg dywyll am ymgais un fenyw i ganfod tynerwch a moesoldeb yn Copenhagen wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf.
-
- Film
Hard Truths
Mae menyw bryderus a blin a’i chwaer hawddgar yn gwrthdaro yn y ddrama dosturiol a gafaelgar yma.