Bydd ein maes parcio blaen yr adeilad ar gau 9 Mai – 15 Mehefin. Defnyddiwch ein prif faes parcio sy’n hygyrch o Heol Marchnad.

Film

Carry on Screaming: the Extraordinary Miss Flower (12A)

12A
  • 2024
  • 1h 13m
  • UK

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan Iain Forsyth, Jane Pollard
  • Tarddiad UK
  • Blwyddyn 2024
  • Hyd 1h 13m
  • Tystysgrif 12A
  • Math Film

Mae ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch bob bore Gwener. Maen nhw’n caniatáu i rieni neu ofalwyr â phlentyn o dan flwydd oed weld ffilm heb orfod poeni am amharu ar eraill, a gydag addasiadau i’r amgylchedd sinema i’w gwneud mor gyfleus a chyfforddus â phosib. Mae mynediad am ddim i fabanod, ond cofiwch: dim babi, dim mynediad.

Dangosiadau pellach ar gael i'r hyn heb fabanod. Edrychwch isod am ddangosiadau a digwyddiadau perthnasol.

____

Pan fu farw Geraldine Flower, darganfu ei theulu gasgliad cyfrinachol o lythyron gan gariadon ledled y byd yn datgan eu cariad iddi, gan awgrymu bywyd posib o ysbïo. Wedi’i hysbrydoli, recordiodd y gantores-gyfansoddwraig o Wlad yr Iâ Emilíana Torrini albwm sy’n ffurfio asgwrn cefn y ffilm freuddwydiol danbaid yma. Mae’r artistiaid Iain Forsyth a Jane Pollard (20,000 Days on Earth, The Horror Show! yn Somerset House) yn uno’r darnau yma o berfformiad gan Torrini, y coreograffydd Kate Coyne, ac actorion, gan ffurfio corawd Groegaidd o garwyr, er mwyn dod â’r hudolus Miss Flower yn ôl yn fyw.

Rhaghysbysebion a chlipiau

Dewch â’ch babi i’n dangosiadau ffilm wythnosol o ffilmiau newydd.

Mynediad am ddim i fabanod, amgylchedd ymlaciol, heb angen poeni am darfu - mae ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch ar gyfer rhieni a gwarcheidwaid sydd â babanod o dan flwydd oed.

Cofiwch: Dim baban, dim mynediad!

Share