The stair lift to Cinema 1 is currently out of order. For step-free access, please book tickets for Cinema 2. Thank you for your patience!

Film

Sgrechiwch fel y Mynnwch: Vermiglio (15)

15
  • 2024
  • 1h 59m
  • Italy

£7 - £9

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan Maura Delpero
  • Tarddiad Italy
  • Blwyddyn 2024
  • Hyd 1h 59m
  • Tystysgrif 15
  • Math Film

Mae ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch bob bore Gwener. Maen nhw’n caniatáu i rieni neu ofalwyr â phlentyn o dan flwydd oed weld ffilm heb orfod poeni am amharu ar eraill, a gydag addasiadau i’r amgylchedd sinema i’w gwneud mor gyfleus a chyfforddus â phosib. Mae mynediad am ddim i fabanod, ond cofiwch: dim babi, dim mynediad.

Dangosiadau pellach ar gael i'r hyn heb fabanod. Edrychwch isod am ddangosiadau a digwyddiadau perthnasol.

_____

Ym mhentre bach mynyddig Vermiglio yn yr Eidal, yn nyddiau olaf yr Ail Ryfel Byd, mae’r milwr Pietro o Sisili yn cyrraedd y dre ar ôl gadael y fyddin. Mae’n cael ei dderbyn gan deulu’r athro lleol, ac yn ffurfio cysylltiad gyda’i ferch Lucia. Yn y portread teimladwy yma am deulu mawr ac arferion oes a fu, mae cyrhaeddiad Pietro yn arwain at ganlyniadau a fydd yn newid llwybr eu bywydau. Ffilm weledigaethol, gyda harddwch toreithiog yr Alpau wedi’i ffilmio’n gain o dan olau naturiol gaeaf caled a gwanwyn adfywiol.

Rhaghysbysebion a chlipiau

Dewch â’ch babi i’n dangosiadau ffilm wythnosol o ffilmiau newydd.

Mynediad am ddim i fabanod, amgylchedd ymlaciol, heb angen poeni am darfu - mae ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch ar gyfer rhieni a gwarcheidwaid sydd â babanod o dan flwydd oed.

Cofiwch: Dim baban, dim mynediad!

Share

Times & Tickets