Bydd ein maes parcio blaen yr adeilad ar gau 9 Mai – 15 Mehefin. Defnyddiwch ein prif faes parcio sy’n hygyrch o Heol Marchnad.

Talks

Show Me The Bodies: How We Let Grenfell Happen

Free

Nodweddion

3.30-5pm | Am ddim, angen archebu

Newyddiadurwr a dirprwy olygydd yn Inside Housing yw Peter Apps – a dorrodd stori ar beryglon cladin fflamadwy 34 diwrnod cyn Tân Grenfell. Bydd Peter yn ymuno â ni yng Nghaerdydd i drafod ei lyfr, Show Me The Bodies: How We Let Grenfell Happen. Enillodd Show Me The Bodies: How We Let Grenfell Happen, Wobr Orwell 2023 am ysgrifennu gwleidyddol.

Yn Show Me The Bodies, mae Peter Apps yn datgelu’n fanwl sut achosodd llif parhaus o ddadreoleiddio, barusrwydd corfforaethol a difaterwch sefydliadol drychineb. Nid oedd angen i 72 o bobl farw, fel y mae Ymchwiliad Tŵr Grenfell yn ei ddangos yn glir. Dyma stori cymuned alarus y trodd ein llywodraeth ei chefn arni, cymuned sy’n dal i aros am gyfiawnder.

Ysgrifennodd Rowan Moore yn The Observer, "Nid oes llyfr erioed o’r blaen, dros y blynyddoedd o adolygu llyfrau am adeiladau, wedi fy ngyrru i ddagrau. Fe wnaeth yr un yma, gyda stori un o breswylwyr Grenfell yn brwydro i ddianc gyda’i ferched ifanc a’i wraig feichiog iawn.”

Ymunwch â ni mewn sgwrs bwerus gan Peter, wedi’i chadeirio gan yr awdur o Gaerdydd, Rachel Dawson. Byddwn ni’n siarad gyda Peter am ei waith yn datgelu penderfyniadau gwallus, a’r gwersi y gallwn ni eu dysgu i sicrhau na fydd trychineb fel Grenfell byth yn digwydd eto.

___

Mae’r digwyddiad yma’n rhan o Grenfell: We Stand With You, rhaglen gyhoeddus i gyd-fynd â chyflwyno ffilm Grenfell gan Steve McQueen.

Mae’r daith yma o Grenfell yn cael ei chydlynu gan y Tate mewn cydweithrediad â’r lleoliadau partner, ac fe’i gwnaed yn bosib diolch i gefnogaeth arian cyhoeddus gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Lloegr a gan Art Fund. Bydd pob arddangosiad am ddim, a bydd rhaglen ymgysylltu gyhoeddus gysylltiedig, a fydd yn cynnwys sgyrsiau, gweithdai a digwyddiadau cymunedol gyda chefnogaeth Sefydliad Grenfell.

Share

Times & Tickets