The stair lift to Cinema 1 is currently out of order. For step-free access, please book tickets for Cinema 2. Thank you for your patience!

Film

Six: The Musical (12A)

12A
  • 2025
  • 1h 21m
  • UK

£7 - £9

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan Lucy Moss
  • Tarddiad UK
  • Blwyddyn 2025
  • Hyd 1h 21m
  • Tystysgrif 12A
  • Math Film

Ysgariad, dienyddio, marw, ysgariad, dienyddio, goroesi; nawr, mae’r menywod yn adennill eu stori. O Freninesau Tuduraidd i Eiconau Pop, mae chwe gwraig Harri VIII yn bachu’r microffon ac yn adennill eu hunaniaeth o gysgod eu gŵr drwgenwog, gan ail-greu pum can mlynedd o dorcalon hanesyddol yn ddathliad gorfoleddus o bŵer merched!

Wedi’i hysgrifennu gan Toby Marlow a Lucy Moss, mae’r sioe gerdd bop yma wedi profi llwyddiant ysgubol ers cael ei dangos am y tro cyntaf yn 2017 yng Ngŵyl Cyrion Caeredin ac ennill gwobr Tony yn 2022 am y Sgôr Wreiddiol Orau, ac mae 3.5 miliwn o bobl ledled y byd wedi’i gweld. Nawr, mae’r breninesau — Catrin o Aragon (Jarnéia Richard-Noel), Anne Boleyn (Millie O'Connell), Jane Seymour (Natalie Paris), Anne o Cleves (Alexia McIntosh), Katherine Howard (Aimie Atkinson), a Catherine Parr (Maiya Quansah-Breed) — yn dod i’r sgrin fawr ac i’r unfed ganrif ar hugain gyda pherfformiadau heintus a phwerus, a gyda band ar y llwyfan, y Ladies in Waiting.

Share

Times & Tickets