Rydyn ni wedi diweddaru ein system docynnau'n ddiweddar.

Read more

Film

Superman (2025)

12a
  • 2025
  • 2h 10m
  • USA

£0 - £9

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan James Gunn
  • Tarddiad USA
  • Blwyddyn 2025
  • Hyd 2h 10m
  • Tystysgrif 12a

Mae'r newyddiadurwr, Clark Kent, yn dechrau gweithio i bapur y Daily Planet yn ninas brysur Metropolis lle mae'n cwrdd â'r gohebydd ymchwiliol enwog Lois Lane. Mae'n ymddangos fel dyn ifanc cyffredin, swil o Smallville, ond mae'n cuddio cyfrinach – Kal-El o'r blaned Krypton yw e mewn gwirionedd, yn achub bywydau dinasyddion fel y Superman arwrol. Mae Lois yn ymchwilio’n frwdfrydig i geisio darganfod ei hunaniaeth, ond felly hefyd y deliwr arfau Lex Luthor, sydd ag uchelgeisiau gwleidyddol sy'n gwrthdaro â chred Clark mewn cyfiawnder a gwirionedd. Ail-gread mawreddog o stori glasurol yr archarwr, a addaswyd ar gyfer y sgrin gydag wmff gan y gwneuthurwr ffilmiau James Gunn, o Stiwdios Troma gynt, a greodd Guardians of the Galaxy.

___

Clwb Ffilm Byddar

Ymunwch a ni ar 16 Gorffennaf am ddangosiad Clwb Ffilm Fyddar o Superman wedi'i chynnal gan Heather Williams

Share