The stair lift to Cinema 1 is currently out of order. For step-free access, please book tickets for Cinema 2. Thank you for your patience!

Film

The Seed of the Sacred Fig (15)

15
  • 2024
  • 2h 47m
  • Iran/Germany

£7 - £9

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan Mahamed Rasoulof
  • Tarddiad Iran/Germany
  • Blwyddyn 2024
  • Hyd 2h 47m
  • Tystysgrif 15
  • Math Film

Perseg gyda isdeitlau Saesneg

Mae Iman a’i wraig Najmeh yn llawn cyffro pan mae ei yrfa fel barnwr yn cael hwb gyda dyrchafiad, ond mae ei ferched sy’n fyfyrwyr yn anghyfforddus gyda’u lle mewn byd sy’n newid. Ochr yn ochr â manteision symud yn uwch o fewn y gyfundrefn, mae’n fwy o destun craffu. Mae’n cael ei annog i gymeradwyo dedfrydau o farwolaeth heb ystyried y dystiolaeth, ac mae teyrngarwch rhanedig Iman yn dod i’r amlwg pan fydd ei wn llaw swyddogol yn mynd ar goll, ac mae’r menywod yn ei gartref yn dod dan amheuaeth. Mae’r ddrama deuluol fyfyriol yn troi’n ffilm gyffro afaelgar sy’n edrych ar y rhaniadau yng nghymdeithas Iran. Wedi’i ffilmio’n gyfrinachol, gyda’r gwneuthurwyr ffilm yn ffoi o Iran mewn ofn am eu diogelwch (fe wnaeth yr actores Soheila Gostani brotestio’n gyhoeddus yn erbyn yr hijab), dyma ddrama syfrdanol am gysylltiadau teuluol sy’n cael eu herio gan bobl sy’n derbyn cyfundrefnau tocsig a’r dewrder sydd ei angen i’w gwrthwynebu.

Rhaghysbysebion a chlipiau

Share

Times & Tickets