
Nodweddion
- Wedi’i gyfarwyddo gan David Lynch
- Tarddiad USA
- Blwyddyn 2002
- Hyd 0h 53m
- Tystysgrif 15
- Math Film
Casgliad o weithiau cynnar ac arbrofol gan David Lynch. Gwelwn ei arddull a’i gydweithredwyr (gan gynnwys Jack Fisk, Alan Splet a Catherine Coulson) yn dod at i gilydd i ffurfio gweledigaeth gydlynol o’r gwneuthurwr ffilm a ddaeth i fod.
Six Men Getting Sick
Prosiect myfyriwr yn Academi Celfyddyd Gain Pennsylvania, a ddisgrifiwyd gan adolygiad cyfoes fel "gwaith brawychus a phenfeddwol". Gwyliwn chwe ffigwr haniaethol yn y ffrâm, eu cyrff yn llenwi â sylwedd sy’n gwneud iddyn nhw chwydu. Yn rhan o griw’r ffilm fer roedd Jack Fisk, ac arweiniodd y ffilm at waith cyflogedig a dalodd am gamera cyntaf Lynch.
The Alphabet
UDA | 1968 | 4’ | dim tystysgrif | David Lynch
Yn y cyfuniad tywyll ac abswrdaidd yma o actorion byw ac animeiddio, mae menyw sâl yn dweud y wyddor yn barhaus wrth i bob llythyren ddod yn fyw.
The Grandmother
UDA | 1970 | 33’ | dim tystysgrif | David Lynch
Gan ddefnyddio actorion byw ac animeiddiad, a sain gan Alan Splet, dyma stori dylwyth teg dywyll am fachgen sy’n tyfu nain o hedyn er mwyn dianc rhag esgeulustod a chamdriniaeth ei rieni.
The Amputee, Version 1 and Version 2
UDA | 1974 | 9’ | dim tystysgrif | David Lynch
Catherine Coulson
Mae menyw sydd wedi colli ei dwy goes yn eistedd ac yn ysgrifennu llythyr hir, wrth i’w nyrs aneffeithiol ofalu am fonion ei choesau.
Premonitions Following an Evil Deed
UDA | 1995 | 1’ | dim tystysgrif | David Lynch
Michele Carlyle, Stan Lothridge, Russ Pearlman
Mae menyw’n profi meddyliau cythryblus wrth i’r heddlu ganfod corff marw noeth. Yn rhan o gasgliad o ffilmiau a gomisiynwyd i gofio’r brodyr Lumiere a nodi can mlynedd o sinema.
Times & Tickets
-
Dydd Mercher 26 Mawrth 2025