Performance
Tom Marshman: Section 28 and Me
- 1h 0m
Nodweddion
- Hyd 1h 0m
- Math Plays/Drama
Mae Section 28 and Me yn bortread chwareus, gonest a thwymgalon, sy’n archwilio straeon cwiar am anweledigrwydd a chywilydd y gorffennol.
Roedd Adran 28 yn weithredol rhwng 1988 a 2003, a dyna oedd y ddeddfwriaeth a oedd yn gwahardd awdurdodau lleol ac ysgolion rhag ‘hyrwyddo cyfunrywioldeb’. Nid oedd hawl gan athrawon addysgu na siarad am berthnasau un rhyw; gallai unrhyw un fyddai’n torri’r gyfraith wynebu camau disgyblu.
Yn y sioe newydd yma, mae’r gwneuthurwr theatr Tom Marshman yn gofyn: a yw effaith tyfu i fyny yng nghyfnod deddfwriaeth Adran 28 wedi ei droi’n unigolyn sy’n dangos ei hunan ac sy’n rhannu gormod? Gan gloddio’n ddwfn i’w seice, a gan ddefnyddio myfyrdodau personol, perfformiadau’r gorffennol, a safbwynt unigryw ei dad, mae’n ystyried y cyfnod yma o dawelwch gorfodol.
Gofynnodd Tom i lawer o gymunedau cwiar: beth yw eich stori Adran 28 chi? Mae’n casglu lleisiau o sawl cenhedlaeth, ac yn cysylltu hanes a gwleidyddiaeth gyda’r hynod bersonol, i ddathlu’r gymuned LHDTCRhA+ wydn ac unigryw.
Dydd Sadwrn 29 Mehefin
2-4PM
Talu beth allwch chi: £0, £3, £5, £8
Mewn partneriaeth â Chapter, bydd Tom yn cynnal te parti i drafod effaith Adran 28 ar y gymuned gwiar, gan ddod â hanesion anghofiedig yn weladwy a’u cysylltu â materion dybryd y presennol.
Mae mwy o wybodaeth a thocynnau ar gael yma
More at Chapter
-
- Performance
Dan Johnson: Ecstatic Drum Beats
Ecstatic Drum Beats brings young people together for a series of 10 experimental percussion and performance workshops to explore and celebrate our collective creative potential.
-
- Events
Drones Comedy Club 2025
The best from up-and-coming stand-ups on the first and third Friday of the month.
-
- Performance
A Year of Deep Listening: Performance and Book Launch
Ymunwch â ni mewn penwythnos o weithgarwch wedi’i guradu gan yr artist preswyl a’r hwylusydd Gwrando Dwfn,Dan Johnson, i ddathlu cyhoeddi A Year of Deep Listening.
-
- Art
Parti agoriadol: MIXED MESSAGES FROM THE IRISH REPUBLIC
A celebration event for the opening of Eimear Walshe’s first UK solo exhibition, MIXED MESSAGES FROM THE IRISH REPUBLIC.