Rydyn ni wedi diweddaru ein system docynnau'n ddiweddar.

Read more

Film

Twin Peaks: Fire Walk With Me (18)

18
  • 1992
  • USA

£0 - £9

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan David Lynch
  • Tarddiad USA
  • Blwyddyn 1992
  • Tystysgrif 18
Yn nhre Deerfield, Washington, mae’r Asiant FBI, Chester Desmond, yn diflannu wrth chwilio am lofrudd Teresa Banks. Yn Philadelphia, mae ymddangosiad dirgel yr Asiant Philip Jeffries yn arwain Prif Swyddog Swyddfa'r FBI, Gordon Cole, i roi’r Asiant Dale Cooper ar yr achos. Flwyddyn yn ddiweddarach, mae Laura Palmer, merch yn ei harddegau, yn byw dau fywyd yn Twin Peaks, Washington, gan frwydro yn erbyn ei thynged anochel. Rhagarweiniad dadlennol i gyfres Twin Peaks, lle gwelwn David Lynch yn mynd i lawr ffordd dywyllwch a gwytnach ym myd ffilm na’r oedd teledu’n ei chaniatáu. Cafodd y ffilm ei dilorni gan feirniaid ar adeg ei rhyddhau, ond wrth edrych ’nôl mae wedi cael ei hailystyried yn un o gampweithiau gyrfa Lynch.

Share

Times & Tickets