Ein hymgyrch arts for impact drwy Big Give yn fyw! Bydd pob rhodd sy'n cael ei rhoi yn cael ei dyblu.

Support us here

Events

Twmpath Dydd Gŵyl Dewi

Nodweddion

  • Math General Entertainment

7-9pm | Am ddim

Ymunwch â ni mewn Twmpath bywiog i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Does dim angen poeni os taw dyma fydd eich Twmpath cyntaf, bydd ein galwr cyfeillgar Elisa Morris wrth law i’ch tywys drwy bob dawns. Bydd cerddoriaeth fyw gan aelodau AVANC a bydd ein caffi’n gweini cawl traddodiadol a danteithion blasus eraill.

Mae’r digwyddiad yma am ddim, felly ymunwch gyda ni i wneud ffrindiau a dathlu yn yr hen ffordd Gymreig.

___

Gweler ein bwydlen Twmpath

Does dim angen archebu, mae croeso i roddion. Mae pob rhodd yn mynd yn uniongyrchol i gefnogi ein rhaglen artistig, gan adeiladu cymunedau creadigol yng Nghymru. Dysgwch fwy yma.

Share