Nid yw ein lifft ar gael ar hyn o bryd. Rydym yn gweithio i'w drwsio cyn gynted ag sy'n bosib. Mae'n ddrwg gennyf am yr anhwylustod.

Bydd ein maes parcio blaen yr adeilad ar gau 9 Mai – 15 Mehefin. Defnyddiwch ein prif faes parcio sy’n hygyrch o Heol Marchnad.

Rydyn ni wedi diweddaru ein system docynnau'n ddiweddar. Gallwch nawr wneud pryniadau yn bersonol, dros y ffôn ac ar-lein. Diolch am eich amynedd.

Read more

Film

We Are Fugazi From Washington D.C.

adv15
  • 2022
  • USA

£0 - £9

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan Joe Gross Jeff Krulik Joseph Attisall
  • Tarddiad USA
  • Blwyddyn 2022
  • Tystysgrif adv15

Mae We Are Fugazi from Washington D.C. yn ffilm 96 munud o hyd a gafodd ei chreu i goffáu’r 20 mlynedd sydd wedi bod ers ymddangosiad byw olaf y band ôl-hardcore o DC, Fugazi (4 Tachwedd 2002, yn Forum yn Llundain). Mae’n cynnwys sioeau byw wedi’u torfoli a recordiwyd gan ffans yn y dorf a lluniau archif prin o Fugazi wedi’u curadu gan Joe Gross, Joseph Pattisall a Jeff Krulik. Mae’r ffilm yma, sy’n cael ei hysbysebu’n benodol fel ffilm nad yw’n un ddogfennol (tHISiSNOTaFUGAZIdDOCUMENTARY), yn talu teyrnged i ddoniau Fugazi fel act fyw – er mwyn i’r hen ffans gofio ac i genhedlaeth newydd ddarganfod beth wnaethon nhw ei fethu. Mae’r casgliad archifol unigryw yma’n dathlu’r ffans a’u camerâu, gymaint â’r band ei hun – cyd-drawiad/gwrthdrawiad o’r eiliad fyrhoedlog ar y llwyfan, a’r eiliadau ar gamera.

Golwg ddiddorol ar y band pync radical gan ddefnyddio clipiau wedi’u torfoli a recordiwyd gan eu ffans.

Share

Times & Tickets