
Film
We Live in Time (15)
- 2024
- 1h 48m
- UK
Nodweddion
- Wedi’i gyfarwyddo gan John Crowley
- Tarddiad UK
- Blwyddyn 2024
- Hyd 1h 48m
- Tystysgrif 15
- Math Film
Mae Almut a Tobias yn cwrdd â’i gilydd drwy hap a damwain, ac mae siawns yn eu tynnu at ei gilydd ac yn newid eu bywydau. Drwy gipluniau o’u bywyd gyda’i gilydd – cwympo mewn cariad, adeiladu tŷ, dod yn deulu – mae gwirionedd anodd yn dod i’r wyneb, gan siglo’r sylfeini. Wrth iddyn nhw ddechrau ar daith heriol gyda chyfyngiad amser yn gwasgu, maen nhw’n dysgu gwerthfawrogi pob eiliad o daith anghonfensiynol eu cariad. Rhamant deimladwy, dros ddegawd, sy’n neidio drwy amser.
_____
Clwb Ffilm Byddar
Ymunwch â ni am drafodaeth mewn BSL gyda Heather Williams wrth iddyn ni cyflwyno'r ffilm We Live in Time am Clwb Ffilm Byddar ar ddydd Mercher 15 Ionawr, 5.35pm.
More at Chapter
-
- Film
A Real Pain (U)
Mae’r ddau gefnder gwahanol, David (Jesse Eisenberg) a Benji (Kieran Culkin), yn aduno ar daith drwy Wlad Pwyl i gofio am eu nain annwyl. Mae’r antur yn cymryd tro pan fydd hen densiynau rhwng y ddau’n dod yn ôl i’r wyneb yn erbyn cefndir hanes eu teulu.
-
- Film
Maya and the Wave (12A)
Gan beryglu ei bywyd, mae Maya Gabeira yn creu hanes ym myd syrffio sy’n orlawn o ddynion.
-
- Film
The Order (cert. tbc)
Mae asiant FBI yn chwilio am gang o oruchafwyr gwyn yn y ffilm gyffro gymhellol yma.