Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue
CHAPTER FROM HOME: Children's After-School Book Club

CHAPTER O'CH CARTREF: Clwb Llyfrau ar ôl Ysgol i Blant

Maw 20 Ebr , Maw 27 Ebr , Maw 4 , Maw 11 & Maw 18 Mai 2021

Bydd y nani a’r actor proffesiynol Sophie Warren yn Zoomio i’ch ystafell fyw (neu eich cegin, neu ble bynnag mae eich cysylltiad we yn ei gyrraedd!) yn FYW gyda’i chyfaill, The Book Robot, yn barod i ddarllen straeon a chwarae gemau gwirion!

Mae’r sesiynau wythnosol byr yma yma wedi’u hanelu at ddisgyblion Cyfnod Allweddol 1 (4-7 oed), ac maen nhw’n sesiynau hwyliog, anffurfiol a chreadigol. Caiff pob llyfr ei ddewis yn ofalus ar sail thema wythnosol (newid hinsawdd, lles, crefydd, rhagenwau rhywedd, anableddau dysgu), gyda’r nod o archwilio’r byd amrywiol rydyn ni’n byw ynddo. Byddwn ni’n mwynhau llyfrau fel Peanut Goes for the Gold, llyfr dymunol sy’n dilyn anturiaethau mochyn cwta â rhywedd anneuaidd (wedi’i ysgrifennu gan y campus Jonathan Van Ness oddi ar Queer Eye!), The Many Colours of Harpreet Singh gan Supriya Kelkar, sy’n adrodd hanes hyfryd Harpreet a’i thrafferthion a’i hanturiaethau mewn dinas newydd, a Wanda’s Words Got Stuck gan Lucy Rowland, sy’n dilyn gwrach fach sydd ychydig yn rhy nerfus ynghylch cystadleuaeth hud a lledrith yr ysgol!

Mae plant yn dysgu drwy’r hyn rydyn ni’n ei ddangos iddyn nhw, felly beth am ddangos iddyn nhw sut i fod yn wych? Ac ar ben hynny, byddan nhw wedi gorffen mewn pryd i swper!

Bydd pob sesiwn yn canolbwyntio ar thema graidd yn seiliedig ar Lyfr yr Wythnos, gyda gemau cysylltiedig, geiriau Cymraeg allweddol, a geiriau Makaton i’w dysgu ar yr un pryd!

 

Lyfrau yr Wythnos:

27 Ebrill: My Friend Earth gan Paula MacLachlan, gyda darluniau gan Francesca Sanna, sy’n canolbwyntio ar newid hinsawdd, amrywiaeth, a’n hamgylchedd sy’n newid o hyd.

4 Mai: The Many Colours of Harpreet Singh gan Supriya Kelkar, gyda darluniau gan Alea Marley, sy’n canolbwyntio ar amrywiaeth ddiwylliannol, dathlu gwyliau, a’r ofn rydyn ni i gyd yn ei deimlo ynghylch newid.

11 Mai: Peanut Goes for the Gold! wedi’i ysgrifennu gan Jonathan van Ness, gyda darluniau gan Gillian Reid, sy’n trafod rhagenwau rhywedd a hylifedd.

18 Mai: Wandas Words Got Stuck gan Lucy Rowland, gyda darluniau gan Paula Bowles, sy’n canolbwyntio ar anawsterau cyfathrebu, y sbectrwm awtistiaeth, a hyder.

Prisiau:

£3.50 a session

Each session lasts 45 minutes

If you experience touble when booking, please email ticketing@chapter.org

Tocynnau ac Amseroedd