
Gweithdy yn addas i bobl rhwng 16 a 24 oed. Bydd y gweithdy yma’n cael ei cynnal wyneb yn wyneb yng Nghanolfan Gelfyddydau Memo.
Dydd Iau 28 Hydref, 9.45am – 4pm
Creu ffilm mewn diwrnod gyda’ch ffôn clyfar (yn iaith Cymraeg)
Bydd y gweithdy yma’n tywys cyfranogwyr drwy’r broses gyfan o greu ffilm, o’r syniad cychwynnol i’r ffilm derfynol. Bydd yn cynnwys cyflwyniad i iaith ffilm a’r system barhad; cynllunio a chreu bwrdd stori ar gyfer dilyniant ffilm fer; sut i gael saethiadau da gyda ffôn clyfar; ffilmio’r dilyniant; golygu gydag ap golygu VN am ddim ar iPhone neu Android (bydd angen i’r cyfranogwyr ei lawrlwytho ymlaen llaw).
Mae nifer cyfyngedig o fwrsariaethau ar gael ar gyfer pobl ifanc sy’n dymuno mynd i’r bob gweithdai, ond sy’n byw mewn cartref incwm isel. I wneud cais am ffurflen gais bwrsariaeth, anfonwch e-bost at: learning@chapter.org
Mae’r gweithgarwch yma’n rhan o raglen Academi Ffilm BFI ledled Prydain, a chaiff ei gefnogi gan arian y Loteri Genedlaethol.