
Stori am freuddwyd un bachgen 12 oed am gael bod yn ddihiryn mwya’r byd.
Dewch i wylio’r ffilm a phaentio’ch hunan fel minion!
Byddwn ni’n dechrau drwy edrych ar gelf y saithdegau, gan archwilio patrymau a chyfuno lliwiau. Yna byddwn ni’n meddwl am ein nodweddion diffiniol a darnau o’n gwisg ni ein hunain, a sut gallwn ni eu defnyddio i greu portread minion unigryw.
Ar ôl y ffilm, byddwn ni’n paentio ein portreadau minion ar gynfas. Bydd pob cyfranogwr yn mynd â chynfas unigryw adre gyda nhw, wedi’i greu ganddyn nhw a’i ysbrydoli gan y ffilm. Dyma weithdy gwych i feithrin hyder a mwynhau gyda chelf.
Mae’r gweithdy yma’n addas i blant rhwng 7 ac 14 oed.
Amserlen:
10am: croeso ac ymarferion creadigol
11:30am: dangosiad ffilm
1pm: cinio. Bydd angen i chi ddod â phecyn bwyd.
Ar ôl cinio: gweithdy arlunio a phaentio
3.30pm: diwedd
Peidiwch â gwisgo eich dillad gorau!
Iau 26 Ion, Iau 2 , Iau 9 & Iau 16 Chw
Iau 13 Hyd 2022 - Sul 31 Rhag 2023
Iau 13 Hyd 2022 - Sul 31 Rhag 2023