Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue
Theatr Iolo: Summer of Fun

Theatr Iolo: Haf o Hwyl

Iau 11 Awst 2022
Seligman Theater

Sesiwn Gêms Theatr

Dydd Iau 11 Awst 2022, 11am-12pm & 1.30-2.30pm

Dewch at Theatr Iolo i awr o gêms drama difyr yn Chapter yn rhan o Haf o Hwyl. Sesiwn egnïol, fydd yn cael gan y plant godi ar eu deudroed a meddwl yn gyflym! Fe fydd y sesiwn yn cynnwys digonedd o symud a byrfyfyrio ac mae’n addas i bawb.

Rhedir y sesiwn 11am-12pm yn Gymraeg. Rhedir y sesiwn 1:30-2:30pm yn Saesneg.

Mae'r ddwy sesiwn yn addas i blant chwe hyd at ddeuddeg oed.

Os oes gan eich plentyn unrhyw ofynion mynediad, cofiwch gysylltu â hello@theatriolo.com ac fe wnawn ein gorau i addasu’r sesiwn fel bod eich plentyn yn gallu cymryd rhan.

Cofiwch wisgo dillad cyfforddus y gallwch redeg o gwmpas ynddyn nhw a dewch â photelaid o ddŵr neu ddiod ffrwythau.

Rhaid i oedolion aros ar y safle ond does dim gofyn iddyn nhw gymryd rhan yn y sesiwn.

AM DDIM ond mae archebu tocyn yn angenrheidiol.

Prisiau:

FREE / AM DDIM. 

Tocynnau ac Amseroedd