Y Cynnig gwreiddiol ar gyfer Canolfan Gelfyddydol yng Nghaerdydd (c.1970)

1: Arolwg cyffredinol

2: Safle arfaethedig

3: Gweinyddiaeth a pholisi gweinyddol

4: Cyllid a chodi arian

5: Integreiddio â chynigion CDC

6: Dyrannu a defnyddio gofod

7: Casgliadau

 

1: Arolwg Cyffredinol

Un o'r anawsterau mwyaf sy'n wynebu artistiaid (unigolion a grwpiau) ers y rhyfel, ac artistiaid sy'n gweithio ym mhob cyfrwng, yw dod o hyd i ofod i weithio, perfformio a chyfarfod sydd yn rhesymol ac yn ddigonol. Yn achos yr artist unigol, gall hyn fod yn gwbl andwyol oherwydd mae'r gallu i greu yn lleihau pan fydd y gofod sydd ar gael yn rhy fach. Mae grwpiau, boed y rheiny'n rhan weithredol neu gymdeithasol o fyd y celfyddydau, yn crebachu hefyd o ganlyniad i ddiffyg lle; mae'n rhaid i ddyn nhw gyfyngu ar nifer yr aelodau am nad oes lle i fwy. Mewn llawer o achosion, yr incwm a gollir o ganlyniad i hyn yw'r rheswm na all grwpiau ehangu neu hyd yn oed gynnal eu safonau presennol.

Mae rhai cynghorau lleol goleuedig wedi ceisio bod o gymorth. Yn Llundain, mae Cyngor Camden yn enghraifft drawiadol; mae'r cynghorau yn Hull, Caeredin a St Ives hefyd yn enghreifftiau gloyw. Yn gyffredinol, fodd bynnag, mae dod o hyd i atebion wedi bod yn fater i unigolion.

Fel dinasoedd mawrion eraill, mae Caerdydd yn dioddef o brinder difrifol o le i artistiaid. Sut, felly, all y broblem hon gael ei hateb yn y ddinas, a hynny yn y fath fodd fel nad oes yna gost ariannol enfawr i'r ddinas ei hun? Sut hefyd all Corfforaeth Datblygu Caerdydd helpu i ddarparu'r cyfleusterau sydd eu hangen ar fwy na 2,000 o artistiaid, cerflunwyr, dramodwyr, beirdd a cherddorion?

Efallai y bydd y gwaith ymchwil a gwblhawyd gan Grŵp Prosiect y Ganolfan Gelfyddydau (GPGG) yn ystod y misoedd diwethaf yn fodd o ateb y cwestiwn yn y tymor byr.

Mae nifer o adeiladau gwag yng Nghaerdydd sy'n aros i gael eu dymchwel, neu sy'n debygol o fod yn wag yn fuan cyn cael eu dymchwel yn y pen draw. Yn eu plith mae hen ffatrïoedd a warysau tra sylweddol eu maint. Mae rhai o'r rhain yn aros yn wag am flynyddoedd oherwydd na ellir eu hail-osod neu eu hailddatblygu: o ganlyniad maent yn dirywio ac yn wastraff i'r gymuned - o ran y trethi busnes a'r gwasanaethau posib ac ati a gollir.

Mae rhai adeiladau o'r math hwn yn cynnig gofod gwerthfawr a allai gael ei ddefnyddio gan unigolion a grwpiau i weithio a chyfarfod - naill ai fel canolfan barhaol, neu fel lle i ategu'r gofod sydd ganddynt ar hyn o bryd. Mae maint y lleoedd hyn hefyd yn golygu bod yna gyfleoedd i gael mannau ar gyfer arddangosfeydd a pherfformiadau, nid yn unig i artistiaid o Gaerdydd ond gofod a fydd hefyd yn galluogi grwpiau ac unigolion o bob rhan o Gymru a Phrydain i ymweld.

Mae GPGG wedi edrych ar nifer dda o adeiladau yng Nghaerdydd ac rydym wedi dod o hyd i un sy'n arbennig o addas; mae cynnig i rentu'r gofod wedi cael ei gwblhau ac fe gytunwyd ar rent blynyddol gyda'r perchnogion. Mae rhent yn ymddangos, ar ben hynny, yn ffafriol iawn o ystyried safle canolog a maint yr adeilad,

O fewn yr adeilad hwn, gallem gynnig canolbwynt ar gyfer gweithgarwch creadigol yng Nghaerdydd. Canolbwynt a fyddai'n ymwneud â, ac yn chwarae rhan weithredol ym mywyd y gymuned gyfan. Trwy gydweithredu â'r polisi rheoli, byddai cyfleusterau, offer a gwasanaethau ar gael i artistiaid na fyddai wedi gallu manteisio arnynt fel arall, oherwydd cyfyngiadau ariannol. Byddai'r ganolfan yn pontio'r bwlch rhwng celfyddyd 'sefydledig' - orielau celf, amgueddfeydd a theatrau ac ati - a'r artistiaid hynny sy'n weithgar ar 'lawr gwlad'. Y nod yw creu canolfan o ryngweithio creadigol / cymdeithasol a fydd yn cwmpasu pob agwedd ar y celfyddydau clyweledol; canolfan a fydd yn agored ei hagwedd a'i huchelgais ac a fydd yn cymryd rhan ym mywyd y gymuned hefyd - mewn ysgolion, tafarndai, clybiau ac ysbytai.

Dyma ddisgrifiad cyffredinol o'r hyn y gobeithiwn ei ddarparu; mae gennym frwdfrydedd ddigon a chefnogaeth gan artistiaid a grwpiau. Yr hyn sydd ei angen arnom yn awr, yn fwy na dim, yw nawdd. Nawdd a fydd yn ein galluogi i arwyddo'r brydles ac i gael meddiant o'r adeilad, fel y gall ein gwirfoddolwyr symud i mewn a dechrau ar y gwaith hanfodol o adnewyddu a thrawsnewid yr adeilad.

2: Y Safle Arfaethedig

Mae'r warws rydym yn bwriadu'i drawsnewid yn Adeiladau Bradnum, 6-8 Heol y Tollty, Caerdydd. Â rhan blaen o 35' 4" ar hyd Stryd y Tollty, a drysau ar hyd y fynedfa, mae'r adeilad wedi'i rhannu'n ddwy ran - blaen a chefn - ag mae iddo arwynebedd o 13,750 troedfedd sgwâr.

Mae'r prif adeilad (y rhan flaen) yn cynnwys 3 llawr ac islawr; mae'r cytundeb yn brydles â 70 mlynedd yn weddill arni. Mae'r rent tir blynyddol yn £125 (y landlordiaid yw Corfforaeth Dinas Caerdydd).

Mae'r rhan gefn - dau lawr - ar gael i'w rhentu ar brydles gan Gomisiwn Trafnidiaeth Prydain am 21 mlynedd o 29 Medi, 1957 ymlaen, am £575 y flwyddyn (heb gynnwys costau).

Gwerth ardrethol y cwbl yw £1,972 a'r rhent gofynnol y cytunwyd arno ar gyfer yr adeilad cyfan yw £1,575 y flwyddyn, am gyfnod o dair blynedd.

Yn fras, caiff yr adeilad ei rannu'n ddwy ran; un a fydd yn atebol i'r rheoliadau a'r is-ddeddfau sy'n berthnasol i fan cyhoeddus, a'r llall yn atebol i'r rheoliadau a'r deddfau sy'n berthnasol i glwb.

Bydd addasiadau strwythurol yn ansylweddol gan fod y rhan fwyaf o'r rhannau a'r rhaniadau presennol yn ffug-furiau. Mae'r adeilad mewn cyflwr solet yn gyffredinol. Bydd angen gosod ffenestri newydd ac fe fydd angen trin tamp yn yr adeilad ynghyd ag atgyweirio rhannau o'r to. Fydd y lle ddim yn foethus - rhoddir sylw i'r waliau lle bo angen ac fe gaiff y cwbl got o baent emwlsiwn. Caiff yr adeilad ei wresogi â gwresogyddion calor propan diwydiannol sy'n darparu gwres pelydrol pwerus am gost isel. Caiff systemau trydan eu gosod er mwyn darparu goleuadau a chylchedau pŵer; bydd angen gosod diangfeydd tân a phibellau dŵr er mwyn cydymffurfio â'r rheoliadau ar gyfer adeiladau o'r fath. Polisi GPGG fydd i sicrhau bod cymaint o osodiadau'r adeilad ag sy'n bosib yn symudol, fel y gellir eu defnyddio wedi i'r cyfnod yn yr adeilad ddod i ben.

3: Gweinyddiaeth a Pholisi Gweinyddol

A) Gweinyddiaeth

Bydd corff corfforaethol Canolfan y Celfyddydau yn bodoli ar ffurf Ymddiriedolaeth Elusennol. Rydym yn rhagweld cyflogi staff gweinyddol llawn-amser a fydd yn cwblhau holl waith gweinyddol y Ganolfan. Byddai pedwar aelod o staff yn nifer ymarferol; bydd eu swyddogaethau fel a ganlyn:

1: cyfrifoldeb dros a threfnu o ddydd i ddydd y defnydd o ofod, offer ac amser ar ran y rheiny sy'n dymuno defnyddio'r Ganolfan.

2: delio â'r holl waith papur, gohebiaeth a galwadau ffôn.

3: cyfrifoldeb dros gyhoeddusrwydd a chysylltiadau cyhoeddus.

4: cyfrifoldeb dros drefnu grwpiau o ymwelwyr, darlithoedd, digwyddiadau ac ati

5: trefnu cyfleusterau arlwyo a'r bar.

6: cyfrifoldeb dros ddiogelwch yr adeilad a'r offer

7: cyfrifoldeb dros gynnal a chadw'r adeilad a'r offer.

8: trefnu ac annog gweithgarwch rhwng grwpiau ac unigolion sy'n defnyddio'r ganolfan.

9: bod yn gyfrifol am yr holl faterion ariannol, ond heb fod yn ysgutorion.

10: sicrhau bod y Ganolfan Gelfyddydol yn datblygu i fod yn rym creadigol o bwys a threfnu perfformiadau ac arddangosfeydd ac ati y tu allan i'r Ganolfan ei hun.

11: gweithredu fel ymddiriedolwyr â chyfrifoldeb dros gadw cyfrifon a chofnodion y Ganolfan ac i fod yn atebol i Gomisiynydd Elusennau Cofrestredig.

12: bod yn atebol fel Ymddiriedolaeth i'r awdurdod lleol parthed is-ddeddfau a rheoliadau sy'n berthnasol i'r adeilad a'r defnydd ohono.

13: bod yn atebol i aelodau am unrhyw broblemau sy'n codi yn sgil gweinyddiaeth y ganolfan.

B) Polisi Gweinyddol

Ar ôl trafodaethau â darpar aelodau o'r Ganolfan Gelfyddydol, gall y pwyntiau canlynol gael eu crybwyll:

i) Grwpiau:

1: Dylai grwpiau sy'n defnyddio'r Ganolfan fel canolfan barhaol (h.y. ar adegau rheolaidd trwy gydol y flwyddyn) gadw annibyniaeth lwyr dros eu gweithgarwch. Dylai unrhyw grant gan Gyngor y Celfyddydau (neu unrhyw grantiau tebyg) a gynigir i'r grŵp unigol gael ei gadw gan y grŵp, nid ei osod mewn cronfa fel 'grant-bloc' i'r Ganolfan Gelfyddydol.

2: Gofynnir i grwpiau gyflwyno rhaglenni blynyddol o ddigwyddiadau (i'w cadarnhau) er mwyn i'r weinyddiaeth sicrhau y gall y paratoadau angenrheidiol gael eu cwblhau ac i osgoi gwrthdaro o ran dyddiadau penodol. Fel hyn, byddwn yn gallu trefnu rhaglen gytbwys o ddigwyddiadau ac ati flwyddyn ar y tro.

3: Bydd angen i grwpiau dalu rhent blynyddol i'r Ganolfan Gelfyddydol. Gofynnir am daliadau ychwanegol ar gyfer gwresogi a phŵer yn ôl yr angen a'r defnydd a wneir ohonynt.

4: Bydd yn rhaid i aelodau pob grŵp fod yn aelodau hefyd o'r Ganolfan Gelfyddydol.

ii) Unigolion:

1: Bydd angen i unigolion sy'n defnyddio gofod llawr yn rheolaidd dalu rhent dyddiol bychan.

2: Bydd unigolion yn llwyr gyfrifol am eu deunyddiau a'u hoffer eu hunain.

3: Y Ganolfan Gelfyddydol fydd y corff cynrychioliadol ar gyfer unigolion nad ydynt yn perthyn i grwpiau.

iii) Cyffredinol:

1: Bydd offer y Ganolfan Gelfyddydol (argraffu, tâp fideo, chwaraewyr tapiau, goleuo ac ati) ar gael i aelodau yn rhad ac am ddim, neu yn achos argraffu, er enghraifft, am bris rhesymol (cost inc a phapur yn unig neu gost tapiau a ddefnyddir i recordio ac ati).

2: Bydd y Ganolfan yn derbyn canran o'r holl enillion o berfformiadau cyhoeddus a drefnir yng Nghanolfan y Celfyddydau, boed y rheiny'n ddigwyddiadau wedi'u trefnu gan grwpiau neu unigolion. Yn yr achosion hyn, ni chodir tâl am wres neu oleuadau a bydd y Ganolfan yn gyfrifol am yr holl gyhoeddusrwydd a'r paratoadau sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad.

3: Ag eithrio amgylchiadau arbennig, bydd cyfleusterau'r Ganolfan Gelfyddydol ar gael at ddefnydd aelodau'n unig

4: Cyllid a Chodi Arian

A: Cyllid

Gan taw'r gwariant ym mlwyddyn gyntaf y Ganolfan fydd y gwariant mwyaf dwys yn nhermau cyfalaf, byddwn yn ymdrin â hynny yn y fan hon.

D.S: Fel Ymddiriedolaeth Elusennol, byddai gan y Ganolfan hawl ar gyfraddau gostyngol a manteision amrywiol eraill yng nghyd-destun treth, gyda chaniatâd Arolygydd Trethi Ei Mawrhydi.

Gwariant cyffredinol: -

* Trawsnewid yr adeilad, gan gynnwys adeiladu, gwifrau, gosodiadau (mewnol ac allanol), addasiadau ac addurno: £5,000

Rhent y flwyddyn gyntaf: £1,575

CYFANSWM £6,575

(* Yn seiliedig ar amcangyfrifon yr adeiladwr, ymgynghorydd goleuadau a syrfëwr)

DS Nid yw trethi'n cael eu cynnwys yn yr amcangyfrif hwn am y bydd rhaid i'r rhain gael eu hasesu gan yr awdurdod lleol yng ngolau Statws Elusennol y Ganolfan a'r defnydd o'r adeilad.

Mae'n amhosib rhoi dadansoddiad o'r costau rhedeg neu'r incwm ar hyn o bryd; digon yw dweud y gallai'r costau hynny gael eu talu o incwm y Ganolfan, a ddeilliai o'r ffynonellau canlynol:

1: Ffioedd aelodaeth.

2: Rhent gan Grwpiau.

3: Arlwyo a refeniw o'r bar.

4: Derbyniadau o berfformiadau cyhoeddus.

5: Gwerthu pamffledi, posteri, cylchgronau ac ati

6: Gweithgareddau codi arian.

B: Codi Arian

Rydym yn bwriadu gwneud cais am grantiau ar ffurf grantiau-cymorth; byddwn hefyd yn gwneud ceisiadau arbennig am ddeunyddiau, offer a gwasanaethau penodol.

Ffynonellau:

1: Awdurdodau Lleol

2: Sefydliadau (ee Sefydliad Calouste Gulbenkian)

3: Diwydiant

4: Dyngarwyr

5: Cyngor Celfyddydau Cymru.

Mae llawer o brosiectau tebyg wedi cael llwyddiant ysgubol o ran sicrhau deunyddiau adeiladu (blociau, sment, paent, ac ati) gan weithgynhyrchwyr am bris rhesymol - a hyd yn oed yn rhad ac am ddim. Gallai offer o fath arall (dodrefn swyddfa, cadeiriau, goleuadau ac ati) gael eu darparu gan ysgolion, swyddfeydd a theatrau sydd wrthi'n moderneiddio.

Ym mis Chwefror 1970, y nod yw cynnal cyngerdd codi arian ym Mhafiliwn Gerddi Sophia. Mae pwyllgor gwaith yn gweithio ar y cynllun hwnnw ar hyn o bryd. Y nod yw cynnal 'digwyddiad' undydd lle bydd grwpiau ac unigolion sy'n bwriadu defnyddio Canolfan y Celfyddydau yn gallu gosod stondinau a gadael i'r cyhoedd wybod ym mha faes y maen nhw'n gweithio. Bydd beirdd a cherddorion, arlunwyr ac actorion yn perfformio ac yn gwerthu eu gwaith ac yn y blaen. Gyda'r hwyr, bydd yna gyngerdd elusennol gan rai o'r grwpiau gorau ym meysydd cerddoriaeth boblogaidd a chyfoes, jazz, electronig a chlasurol. Rydym yn ffodus bod ein cydnabod yn ymwneud ag asiantaethau a fyddai'n galluogi i ni logi grwpiau a thalu eu costau/treuliau yn unig.

5: Integreiddio â Chynigion CDC

Rhaid i'r gorfforaeth sylweddoli bod angen ystyried y gefnogaeth yr ydym wedi'i denu i'n prosiect ni mewn unrhyw gynlluniau datblygu yn y dyfodol.

Trwy gefnogi'r prosiect ym mhob ffordd bosib, mae'r Gorfforaeth mewn gwirionedd yn comisiynu grŵp ymchwil i astudio dichonoldeb eu cynnig eu hunain ar gyfer Canolfan Gelfyddydol a Diwylliannol yn ardal ganolog dinas Caerdydd

Ar ôl astudio'r ymateb i'n holiadur am y 'gofynion penodol o ran gofod' fe allai 13,750 troedfedd sgwâr fod yn annigonol. Os felly, bydd yn rhaid i'r Gorfforaeth ailystyried o ddifrif ei chynigion ar gyfer maint y Ganolfan y bwriedir ei hadeiladu. Hefyd, yn ôl canlyniadau ein holiadur ni, ymddengys nad yw'r galw'n sylweddol iawn am 'neuadd fawr'. Mae canran uchel o'n atebion ni yn dod gan artistiaid a cherflunwyr sy'n gweithio mewn meysydd celfyddydol cinetig ac amgylcheddol - mae angen gofod stiwdio sylweddol a hyblyg arnynt a mannau ar gyfer gweithdai. Mae'r broblem hon wedi'i chrisialu gan S.P.A.C.E. yn Llundain. Fel cwmni cyfyngedig, maen nhw'n rhentu warws enfawr yn ardal y dociau doc o ryw 100,000 troedfedd sgwâr, er mwyn ceisio diwallu'r angen am ofod stiwdio. Ar hyn o bryd, mae yna 100 o beintwyr, artistiaid a cherflunwyr cinetig yn gweithio yno - ac mae yna restr aros o fwy na 200. Mae Tair Ysgol Gelf (gan gynnwys Ysgol Gelf y Slade) wedi rhentu gofod yno.

Efallai taw'r grŵp yr effeithir fwyaf arno gan brinder gofod yw myfyrwyr sydd newydd raddio o Goleg Celf: yn y lle cyntaf, rhaid iddyn nhw wneud y tro â nifer cyfyngedig o leoedd yn y Coleg, yna maen rhaid iddyn nhw dderbyn sefyllfa lle nad yw hyd yn oed y ddarpariaeth gyfyngedig honno ar gael. Efallai taw'r rheswm hwnnw a arweiniodd at argymhelliad Mr Tom Hudson - Cyfarwyddwr Astudiaethau yng Ngholeg Celf Caerdydd (un o'r ysgolion celf mwyaf blaengar yn y wlad) - ar Dachwedd 14. Anogodd ef i'w fyfyrwyr ymaelodi â'r Ganolfan Gelfyddydol ac i'w chefnogi ym mhob ffordd posib.

Fe allai'r math yma o wybodaeth - sy'n ymwneud ag angen gwirioneddol - gael ei darparu gan GPGG yn ystod y blynyddoedd sy'n weddill o oes yr adeilad.

Rhaid i'r gwaith o adeiladu cymuned artistig gref yng Nghaerdydd fod yn flaenoriaeth. Wrth wneud hyn, rydym yn bwriadu cynnwys y gymuned ehangach mewn modd nad yw oriel gelf, amgueddfa neu lyfrgell yn gallu ei wneud.

Rydym yn rhagweld y bydd y Ganolfan Gelfyddydau byr-dymor hon yn rhagflas o Ganolfan Gelfyddydol y Gorfforaeth ei hun - ac o ganlyniad i lwyddiannau a methiannau'r ganolfan hon, bydd cynllunwyr y ganolfan yn y dyfodol yn gwybod yn well yr hyn sydd ei angen o safbwynt math a maint o ofod, trefniadau ymarferol ac ati.

Bydd profiad sefydliadol hefyd ar gael, gan y rheiny a gymrodd ran yn natblygiad y Ganolfan, ac fe gaiff unrhyw ddatblygiad yn y dyfodol ei adeiladu ar sylfaen fwy cadarn o lawer o'r herwydd. Yn bwysicaf oll, bydd traddodiad o weithgarwch artistig wedi cael ei sefydlu yn y ddinas ac fe all creadigrwydd y ganolfan dros-dro gael ei adleoli i'r ganolfan barhaol.

Mae hi'n bosib bod y ddinas wrthi'n creu canolfan ddiwerth; bydd y Ganolfan Gelfyddydol dros dro yn fodd o fesur faint a pha fath o gefnogaeth y gall y datblygiad hwnnw ei ddisgwyl.

6: Dyrannu a defnyddio gofod.

Yn ymateb i'n holiadur, codwyd y pwyntiau canlynol yng nghyd-destun y defnydd posib o ofod:

1: man ar gyfer dangos ffilmiau: seddi ar lethr ar gyfer 150-200 o bobl.

2: mannau ar gyfer theatr arbrofol, cyngherddau, canu gwerin, darlleniadau barddoniaeth, jazz a cherddoriaeth arbrofol, gofod fflat â lle i uchafswm o 300 o bobl.

3: gofod arddangos lle gellid dangos a gwerthu gwaith sy'n cael ei gwblhau yn y Ganolfan.

4: gofod cyfathrebu parhaol i gynnwys stondin lyfrau, desg wybodaeth a swyddfa docynnau o ryw fath.

5: gofod stiwdio mawr i bobl sy'n gweithio gyda dyfeisiau a strwythurau mawrion.

6: gweithdai ar gyfer argraffwyr, gweithwyr metel, tâp-fideo ac ati

7: gofod storio.

8: man ar gyfer lluniaeth.

9: ystafelloedd cyfarfod neu bwyllgor.

Teimlwn y gallwn ddarparu'r canlynol yn yr adeilad yr ydym yn ei ystyried;

1: safle ymarferol, di-foeth.

2: cyfleusterau ar gyfer dangos ffilmiau.

3: gofod mawr ar gyfer perfformiadau (ee darllen barddoniaeth, theatr, canu gwerin)

4: arddangosfa a mannau arddangos a fydd ar agor i'r cyhoedd.

5: man "cyfathrebu" (h.y. stondin lyfrau ac ati)

6: gofod stiwdio mawr

7: rhywfaint o ofod gweithdy

8: gofod cymunedol/cymdeithasol lle gellir darparu lluniaeth.

Rydym yn rhagweld rhannu'r gofod sydd ar gael fel a ganlyn:

Llawr gwaelod: man cyhoeddus ar gyfer arddangosfeydd a pherfformiadau, gwerthu gwaith artistiaid, "digwyddiadau" ac ati. Pan na fydd y ganolfan ar agor i'r cyhoedd, gellir defnyddio'r gofod hwn fel gofod ychwanegol ar gyfer aelodau'r Ganolfan.

Llawr cyntaf: gofod stiwdio mawr ynghyd â gweithdy ar gyfer argraffu, tâp fideo a sain.

Ail lawr: bar / lluniaeth / ardal gymdeithasol. Swyddfeydd ar gyfer gweinyddu, storio a dyblygu.

Cefn y llawr cyntaf: mannau perfformio (2) - un yn ystafell wrthsain ar gyfer cyflwyno ffilmiau a chyngherddau penodol, y llall yn fan agored syml ar gyfer perfformiadau theatr, barddoniaeth ac ati

D.S. Mae'r islawr yn fan problematig ar hyn o bryd ac rydym yn bwriadu ystyried y fan hon yn ystod ail gam y datblygiad

Mae'r ddarpariaeth o ofod yn hollbwysig, ond mae angen ystyried hefyd offer penodol: offer sain, goleuo llwyfan; rostra, offer recordio, tâp-fideo; peiriannau argraffu ac offer gwneud ffilmiau yw'r offer y gwneir y rhan fwyaf o geisiadau amdanynt. Nid yw'r un o'r gofynion hyn yn llai nag angenrheidiol ac rydym yn ceisio sicrhau'r offer trwy roddion gan y diwydiant neu trwy gyfrwng grantiau i'n haelodau.

Mae pawb sydd wedi mynegi diddordeb yn Ganolfan wedi pwysleisio eu bod yn barod i weithio gydag eraill, er mwyn ehangu eu gwaith a'u galluoedd eu hunain. Y croes-ffrwythloni hwn, efallai, fydd yr agwedd bwysicaf ar waith y Ganolfan, wrth i artistiaid a cherddorion, beirdd a pheirianwyr sain, dramodwyr a gwneuthurwyr ffilmiau weithio gyda'i gilydd i gyfrannu at fywyd diwylliannol a chreadigol cyffrous a chyfoethog yng Nghaerdydd.

7: Casgliadau

Mae hi'n dod yn fwyfwy amlwg bod galw mawr am Ganolfan i'r Celfyddydau yng Nghaerdydd NAWR, i weithredu fel Canolfan 'interim' cyn adeilad artistig a diwylliannol arfaethedig y Ddinas.

Os yw Caerdydd i gael Canolfan i'r Celfyddydau yn y dyfodol, rhaid ateb y gofynion presennol - fel arall, mae hi'n bosib y bydd y Ganolfan yn wag erbyn y 1980au. Petai'r Ddinas yn fodlon caniatáu i'r cynllun hwn ddigwydd, trwy ddarparu'r gefnogaeth ariannol sydd ei hangen i lansio'r cynllun, bydd yna gyfle gwirioneddol i'r Celfyddydau yng Nghaerdydd ddatblygu, ac fe fydd yna gyfle i feithrin bywyd newydd yn ein cymunedau.

Gydag arweiniad y Ddinas, mae hi'n anochel y byddai'r diwydiant ac unigolion yn dilyn yr un trywydd. Mae angen rhywun i ddechrau'r gwaith - pan fydd y cynllun ar waith, bydd yn medru ei gefnogi a'i ategu'i hun.

Mae angen Canolfan i'r Celfyddydau ar Gaerdydd; rhaid i Gaerdydd gael canolfan o'r fath.

Grŵp Prosiect y Ganolfan Gelfyddydol - Mik Flood, Bryan Jones, Chris Kinsey ac Elizabeth Weston

 

 

Newyddion Chapter

  • MARCHNAD OH SO FESTIVE – GALW AM GEISIADAU

    02 Hyd 2018

    Dydd Sadwrn 8 a Dydd Sul 9 o Ragfyr, 11yb – 6yhY flwyddyn hon mae Ffair Fwyd Nadolig ac Oh So Crafty yn cyfuno i greu Marchnad Oh So...

  • National Lottery Cinema Day

    21 Medi 2018

    Did you know every time you play The National Lottery you’re supporting British film as well as community projects in your local area...

  • e-amserlen Chapter

    Cofrestrwch i dderbyn yr e-amserlen wythnosol.

    More info

Fy Nghyfrif Chapter

Wedi colli eich cyfrinair?

Ddim yn aelod eto?

×