Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

Ymweliad

Beth ddylech chi wybod cyn ymweld

Beth ddylech chi wybod cyn ymweld

Croeso! Ar y dudalen yma, bydd gwybodaeth am beth i’w ddisgwyl pan fyddwch chi’n dod i Chapter, a manylion y mesurau sydd ganddon ni ar waith i sicrhau bod eich ymweliad mor bleserus a diogel â phosib.

Rydyn ni’n diweddaru’r dudalen yma'n rheolaidd, felly cofiwch edrych arni cyn ymweld â ni er mwyn sicrhau eich bod wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf.

 

Newyddion diweddaraf Mawrth 2022

Yn unol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, rydyn ni’n gwneud rhai newidiadau:

  • O 1 Ebrill ymlaen, byddwn ni’n dychwelyd at gapasiti llawn yn ein sinemâu a’n theatrau. Ni fydd seddi penodol yn cael eu dyrannu yn dal i fod.
  • Does dim angen i chi ddangos pàs Covid i gael mynediad i’n sinemâu a’n theatrau. 
  • Mae cyfyngiadau ar wisgo masgiau’n codi. Serch hynny, gofynnwn i chi ystyried pobl sy’n fwy bregus na chi, ac rydyn ni’n cynghori eich bod yn parhau i wisgo masgiau os gallwch chi. Bydd ein staff yn parhau i wisgo gorchuddion wyneb.

Dyma fanylion llawn beth ddylech ei ddisgwyl wrth ymweld â’n Caffi Bar, Sinemâu a Theatrau neu’r Oriel. 

 

Y newidiadau rydyn ni wedi'u gwneud i'ch cadw chi'n ddiogel

  • Gorsafoedd diheintio dwylo
  • Trefn lanhau drylwyr
  • Capasiti llai
  • Cyfarpar diogelu personol i'r staff
  • Mwy o arwyddion i'ch tywys
  • Archebion ar-lein ar gyfer y Caffi Bar a'r Sinema
  • Tocynnau hunan-sganio
  • Taliadau di-gyswllt

Mae ein staff wedi cael hyfforddiant llawn ar y mesurau iechyd a diogelwch newydd, ac maen nhw ar gael i'ch helpu ar draws yr adeilad neu wrth ein Desg Wybodaeth. Gallwch adnabod ein timau Blaen y Tŷ gan y byddan nhw'n gwisgo crysau Chapter.

 

Beth allwch chi ei wneud i weithio gyda ni?

  • Peidiwch â dod i Chapter os oes gennych symptomau COVID
  • Gwisgwch orchudd wyneb
  • Defnyddiwch ddiheintydd dwylo a golchwch eich dwylo
  • Cadwch bellter cymdeithasol
  • Archebwch ar-lein ar gyfer y Caffi Bar a'r Sinema

 

Amseroedd Agor 

Mae'r adeilad ar agor 7 diwrnod yr wythnos, 8.30yb – 11.30yh

Dydd Sul – Dydd Mercher: 9yb-10yh, Iau – Sadwrn: 9yh-11yh

Desg Wybodaeth: 9yb-9yh

Caffi: Dydd Sul – Dydd Mercher 9yb-10yh, Dydd Iau - Dydd Sadwrn 9yb-11yh (gweinir bwyd drwy'r dydd, ac mae'r amseroedd gweini penodol wedi'u nodi yma

Bar: Dydd Sul - Dydd Mercher, Canol dydd – 10yh, Dydd Iau - Dydd Sadwrn, Canol dydd - 11yh

Oriel: Dydd Mawrth – Dydd Sul, 11yb–5yh, ar gau bob dydd Llun

Sinema: Llun – Sul, see film listings for specific dates & times of screenings

Theatr:See performance listingsfor specific times and dates

 

Ailagor mewn lluniau

Er mwyn eich helpu i ddychmygu'r newidiadau rydyn ni wedi'u gwneud, rydyn ni wedi creu oriel o luniau

 

Cwestiynau Cyffredin

Os oes gennych gwestiwn sydd heb ei ateb yma na chwaith yn y tudalennau Bwyd & Diod, Sinema, Oriel, Gwybodaeth am Docynnau, nac Hygyrchedd, anfonwch e-bost at enquiry@chapter.org ac fe wnawn ni eich ateb cyn gynted â phosib.

Bwyd & Diod

What to know before visiting our caffi bar including how to book a table and ordering food & drink

>>>

Sinema

What to expect when attending a film screening 

>>>

Oriel

What to expect when you arrive to our gallery

>>>

Gwybodaeth Tocynnau

Ticket prices and how to book 

>>>

Hygyrchedd

>>>

Ymweliad