Os oes gennych gwestiwn sydd heb ei ateb yma na chwaith yn y tudalennau Bwyd & Diod, Sinema, Oriel, Gwybodaeth am Docynnau, nac Hygyrchedd, anfonwch e-bost at enquiry@chapter.org ac fe wnawn ni eich ateb cyn gynted â phosib.
Nac oes. Does dim angen pàs Covid neu ganlyniad prawf negyddol i ddod i mewn i’r adeilad. Dim ond ar gyfer ein sinemâu, ein theatrau, neu unrhyw ofod lle mae perfformiad yn digwydd mae hyn yn berthnasol. Bydd pasiau Covid a chanlyniadau profion yn cael eu gwirio ar bwynt mynediad ffilm neu berfformiad. O ddydd Gwener 18 Chwefror ymlaen, does dim angen i chi ddangos pàs Covid i gael mynediad.
Os nad oes modd i chi archebu ar-lein, dim ond wyneb yn wyneb all y staff wrth y Ddesg Wybodaeth gymryd archebion. Mae'n ddrwg ganddon ni na allwn ni gymryd archebion dros y ffôn bellach. Rydyn ni’n annog taliadau digyswllt. Ewch i'n tudalen Gwybodaeth am Docynnau i gael rhagor o fanylion.
Rydyn ni’n annog yn gryf eich bod chi’n archebu lle ymlaen llaw ar-lein, neu os ydych chi ar y safle, eich bod yn talu’n ddigyswllt. Mae modd i ni dderbyn taliadau arian parod mewn sefyllfaoedd eithriadol.
Dydyn ni ddim yn cynnig ad-daliad os na allwch chi ddod oherwydd COVID, ond gallwch amnewid eich tocynnau i ddangosiad arall os bydd tocynnau ar gael. Gallwch wneud cais i amnewid hyd at 24 awr cyn amser dechrau'r digwyddiad, drwy anfon e-bost at ticketing@chapter.org. Peidiwch â dod i Chapter os oes gennych symptomau COVID. I weld y telerau ac amodau llawn ar ad-daliadau tocynnau, credyd ac amnewid, ewch i'r dudalen Telerau ac Amodau.
Na fyddan. Am resymau iechyd a diogelwch, ni fyddwn ni'n argraffu deunydd rhestriadau na nodiadau rhaglen. Bydd pob ffilm a digwyddiad yn cael eu nodi ar ein gwefan o dan Digwyddiadau. Gallwch gofrestru i fod ar ein rhestr e-bost i gael gwybodaeth am y rhaglen i'ch mewnflwch.
Mae ein tîm Blaen y Tŷ ar gael ar bob adeg o'r dydd. Ewch i'r Ddesg Wybodaeth, sydd ar ochr chwith y brif fynedfa, a gofynnwch am y Rheolwr ar Ddyletswydd. Gallwch adnabod ein timau Blaen y Tŷ gan y byddan nhw'n gwisgo crysau Chapter.
Ni fydd cyfyngiad ar niferoedd.
Na fydd. Mae ein siop ar gau am y tro.
Bydd. Mae'n bosib y byddwn ni'n cynnal digwyddiadau achlysurol yn yr awyr agored, a byddwn ni'n dilyn canllawiau'r Llywodraeth ar gyfer pob prosiect.
Mae tocynnau ar gyfer dangosiadau ffilm ar gael i'w prynu ar-lein tan 15 munud cyn yr amser dechrau a hysbysebwyd, yn amodol ar fod tocynnau ar gael. Mae tocynnau ar gyfer digwyddiadau rhithiol hefyd ar gael i'w prynu ar-lein tan un awr cyn yr amser dechrau a hysbysebwyd, yn amodol ar fod tocynnau ar gael ac oni bai y nodwyd fel arall.
Dydyn ni ddim yn casglu manylion ar gyfer Tracio ac Olrhain bellach.
Byddan. Bydd ein staff yn gwisgo gorchudd wyneb ar bob adeg (oni bai eu bod wedi'u heithrio ar sail feddygol). Mae'n well ganddon ni feisorau, ond yn unol â deddfwriaeth y llywodraeth mae'n rhaid i staff lletygarwch wisgo masgiau. Rydyn ni'n ymddiheuro bod hyn yn creu heriau i'n cymuned F/fyddar, ac rydyn ni'n chwilio am ffyrdd o gynnig gwasanaeth mwy hygyrch. Bydd staff yn gwisgo feisorau clir yn rhannau eraill yr adeilad.