Rydyn ni wedi'n lleoli yn Nhreganna, y tu ôl i Heol Ddwyreiniol y Bont-Faen, rhwng Heol Llandaf a Heol y Farchnad. Mae'n hawdd ein cyrraedd o ganol y ddinas. Ein cyfeiriad yw:
Chapter
Heol y Farchnad
Treganna
Caerdydd
CF5 1QE
Ar droed
Rydyn ni wedi'n lleoli ar ochr orllewinol Caerdydd, ac mae'n hawdd dod o hyd i ni o ganol y ddinas. Gallwch ddefnyddio ap llwybrau cerdded i'ch helpu, fel Map My Walk neu Mapiau Google.
Bws
Gallwch ddal bysiau rhif 17, 18 yn uniongyrchol (arhosfan Canolfan Gelfyddydau Chapter) bob 5 munud o ganol Caerdydd.
Beic
Mae ganddon ni orsaf feiciau dan do o flaen ein prif fynedfa, ac mae gorsaf Next Bike ar Blas y Farchnad.
Car
Er hwylustod, mae ganddon ni faes parcio am ddim y tu ôl i'r adeilad gyda chwech lle dynodedig i ddeiliaid Bathodyn Glas. Gall fynd yn brysur iawn yno, ond mae sawl maes parcio arall yn gyfagos. Caiff y meysydd parcio cyhoeddus yn Nhreganna eu gweithredu gan Gyngor Caerdydd, a gallwch barcio am ddim am hyd at ddwy awr rhwng 8yb a 6yh. Wedi hynny, mae ffi safonol o £3 y diwrnod. Gallwch barcio am ddim rhwng 6yh ac 8yb, a drwy'r dydd ar ddydd Sul.
Mae rhai llefydd parcio ar Blas y Farchnad, o flaen Chapter. Byddwch yn ofalus wrth barcio yn yr ardal yma, gan fod rhai gofodau'n ymddangos fel petaen nhw'n llefydd parcio, ond maen nhw y tu ôl i linellau dwbl. Mae'r llinellau dwbl yn berthnasol i'r ardal gyfan sydd y tu ôl iddyn nhw, gan gynnwys y pafin, felly os byddwch chi'n eu pasio, byddwch chi'n parcio'n anghyfreithlon ac mae'n bosib y byddwch chi'n cael tocyn parcio.
Cyfeiriad what3words: ///quiet.spill.blitz