Croeso'n ôl i'n Caffi Bar!
Mae ganddon ni fwydlen dymhorol flasus, ac rydyn ni wedi gwella'r gofod i gynnwys bar modern, goleuadau ecogyfeillgar, a thoiledau pob-rhywedd newydd sbon. Er mwyn cadw pawb yn ddiogel, ac i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau posib pan fyddwch chi'n ymweld â ni, gofynnwn i chi weithio gyda ni drwy ddilyn ein canllawiau i ymwelwyr. I gael rhagor o wybodaeth am beth i'w ddisgwyl pan fyddwch chi'n ymweld, cliciwch yma.
Y Caffi Bar golau a chyfeillgar yw calon ein safle, ac mae ganddo awyrgylch bywiog ar bob adeg o'r dydd, bob dydd o'r wythnos. Dyma'r lle perffaith i fwynhau celf gyda'ch coffi, i fachu rhywbeth blasus cyn ffilm, neu i dreulio amser gyda ffrindiau dros rywbeth i'w rannu. Mae cysylltiad gwe di-wifr cyflym ar gael am ddim, ac mae croeso i chi ddefnyddio ardal newydd y gliniaduron (sydd â digonedd o blygiau trydan) fel swyddfa dros dro i gynnal cyfarfodydd anffurfiol.
Oriau Agor
Caffi
Dydd Llun - Dydd Sul: 9yb – 9yh
Rydyn ni'n gweini bwyd drwy'r dydd, ac mae'r amseroedd wedi'u nodi isod:
• Brecwast: 9 – 11.30yp
• Cinio: 12yp – 4yp
• Platiau Bach a Byrbrydau: 4yp – 9yh
• Swper: 4yp – 9yh
Bar
Llun - Sul: 12yp – 10yh (archebion olaf 9.30yh)
Archebu Bwrdd
Rydyn ni'n gwybod y bydd rhai ohonoch chi am allu galw heibio pan fydd yr awydd am ein byrgyr blasus neu goffi ewynnog yn codi, ac fe wnawn ni'n gorau i groesawu ymweliadau heb archebu, ond yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, rydyn ni'n annog yn erbyn hyn. Dylech archebu ymlaen llaw pan fo'n bosib. Dylech nodi na chaniateir mwy na 4 person i bob archeb (mae hyn yn cynnwys plant), a bydd angen archebu'r byrddau awyr agored ymlaen llaw hefyd.
Os oes angen bwrdd i fwy na 4 o bobl o'r un cartref, bydd angen i chi archebu dros y ffôn drwy 029 2035 5664 neu anfon e-bost at reservation@chapter.org, a dod â phrawf o gyfeiriad ar gyfer pob aelod o'r grŵp.
Sut i archebu bwrdd:
Ar-lein
Gallwch archebu bwrdd i gael bwyd a/neu ddiod ar-lein yma.
Ffôn
Gallwch archebu bwrdd dros y ffôn hefyd, drwy ffonio ein tîm cyfeillgar yn y Caffi Bar ar 029 2035 5664.
Cyrraedd eich bwrdd
Y drysau blaen yw unig fynedfa'r adeilad.
Pan fyddwch chi'n cyrraedd, ewch i'r ddesg flaen lle bydd aelod o'n tîm yn eich croesawu a'ch tywys at eich bwrdd dynodedig.
Bydd ein staff yn gwisgo cyfarpar diogelu personol, a bydd gofyn i chi wisgo gorchudd wyneb tan eich bod yn eistedd wrth eich bwrdd. Mae glanweithydd dwylo ar gael ledled yr adeilad, ac rydyn ni'n gweithredu trefn lanhau drylwyr. Rydyn ni wedi lleihau ein capasiti, ac mae'r byrddau o leiaf 2m oddi wrth ei gilydd. Mae marciau ar y llawr i'ch helpu gyda chadw pellter cymdeithasol a chanfod eich ffordd o gwmpas y gofod.
Archebu bwyd a diod
Bydd modd archebu a thalu am eich bwyd a diod ar-lein. Dilynwch y cyfarwyddiadau syml ar eich bwrdd. Does dim angen lawrlwytho ap.
Petai'n well ganddoch chi archebu gydag aelod o staff, mae hynny'n iawn hefyd! Rhowch wybod i ni, ac fe gymerwn ni eich archeb a thaliad di-gyswllt wrth y bwrdd.
Bydd bwyd a diod yn cael ei weini i'ch bwrdd.
Bwydlen
Mae ein bwydlen newydd yn cynnwys llawer o'ch ffefrynnau yn Chapter - gan gynnwys brecwast poeth swmpus, byrgys cig eidion neu blanhigion blasus, powlenni salad lliwgar, ein sglodion sglyfaethus poblogaidd, a dewis o ginio dydd Sul. Rydyn ni hefyd wedi ychwanegu rhai prydau tymhorol y byddwch chi'n siŵr o'u mwynhau! Mae ein bwydlen i'w gweld isod:
Gweld ein bwydlen
Bwyd i fynd
Mae bwyd i fynd ar gael. Pan fyddwch chi'n cyrraedd y ddesg flaen, bydd aelod o'n tîm yn eich croesawu a'ch cyfeirio at yr ardal bwyd i fynd er mwyn gwneud eich archeb. Lle bo'n bosib, defnyddiwch daliad di-gyswllt. Byddwch yn cael eich tywys i ardal aros cyn i ni eich galw er mwyn casglu'ch archeb.
Hygyrchedd
Dylech nodi mai'r drysau blaen yw unig fynedfa'r adeilad.
Mae ein Caffi Bar ar y llawr gwaelod lle mae mynediad gwastad i'r adeilad drwy ddrysau awtomatig. Mae gofodau parcio anabl penodedig yn y maes parcio blaen a chefn.
Rydyn ni'n wrth ein boddau o gael toiledau pob-rhywedd newydd sbon yn ein Caffi Bar, ynghyd â thoiledau ar wahân i ddynion a menywod yn yr ardal Sinema. Mae dau gyfleuster newid sy'n addas i gadeiriau olwyn, ac un cyfleuster Changing Places (sy'n cynnig digon o ofod ac offer i bobl nad oes modd iddynt ddefnyddio'r toiled yn annibynnol) ar y llawr gwaelod.
Rydyn ni wedi creu'r fideo byr yma i ddangos i chi beth i'w ddisgwyl pan fyddwch chi'n dychwelyd. Mae'r fideo'n cynnwys capsiynau yn Gymraeg neu Saesneg, gyda chyfieithiad Iaith Arwyddion Prydain.
Cwestiynau Cyffredin
Er mwyn archebu bwrdd ar-lein, cliciwch yma. Caiff ein system archebu ar-lein ei rheoli drwy Res Diary. Does dim angen i chi lawrlwytho ap. Byddwn ni'n gofyn am enw, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn. Byddwn ni'n gofyn hefyd am y dyddiad a'r amser yr hoffech ei archebu. Bydd angen nodi a fyddwch chi'n dod i gael bwyd a/neu ddiod, a hoffech eistedd y tu mewn neu'r tu allan, ac a oes angen gofod gyda phlygiau trydan arnoch chi. Byddwch yn cael e-bost i gadarnhau a fydd yn cynnwys manylion yr archeb. I gael manylion ein Polisi Preifatrwydd Data, cliciwch yma.
Os oes angen bwrdd i fwy na 4 o bobl o'r un cartref, bydd angen i chi archebu dros y ffôn drwy 029 2035 5664 neu anfon e-bost at reservation@chapter.org, a dod â phrawf o gyfeiriad ar gyfer pob aelod o'r grŵp. Bydd pob archeb bwrdd yn cael slot dwy awr. Rydyn ni'n gofyn yn garedig i chi gyrraedd dim mwy na chwarter awr ar ôl eich amser dechrau dynodedig. Os byddwch chi'n cyrraedd yn hwyr, mae'n bosib na allwn ni warantu'r bwrdd i chi. Rydyn ni'n gwybod bod cynlluniau'n gallu newid, ac os nad oes modd i chi ddod bellach, rydyn ni'n gofyn i chi ganslo ymlaen llaw er mwyn i ni allu cynnig y bwrdd i gwsmer arall. Gallwch ffonio'n tîm yn y Caffi Bar drwy 029 2035 5664 neu addasu'ch archeb drwy'r e-bost cadarnhau. Rydyn ni'n dueddol o fod yn brysur ar gyfer cinio dydd Sul, felly os na fyddwch chi'n dod ar ôl archebu bwrdd, a hynny heb roi gwybod i ni, bydd yn rhaid i ni godi £10 y pen i wneud iawn am yr incwm a gollwyd.
Yn unol â chanllawiau'r Llywodraeth, gofynnwn i chi archebu ymlaen llaw lle bo'n bosib. Er y gwnawn ni'n gorau i groesawu pobl sydd heb archebu, yn anffodus allwn ni ddim gwarantu y bydd lle, ac anogwn yn gryf eich bod chi'n archebu ymlaen llaw.
Os na allwch chi archebu bwrdd ar-lein neu ar y ffôn, bydd aelod o'n tîm yn falch o archebu bwrdd ar eich rhan. Fodd bynnag, os byddwch chi'n archebu ar yr un dydd, allwn ni ddim gwarantu y bydd lle. Rydyn ni'n argymell felly eich bod chi'n archebu ymlaen llaw er mwyn osgoi cael eich siomi.
Does dim angen i chi wisgo gorchudd wyneb pan fyddwch chi'n eistedd wrth eich bwrdd. Fodd bynnag, mae angen i chi wisgo gorchudd wyneb wrth symud o gwmpas yr adeilad, yn unol â chanllawiau'r Llywodraeth.
Mae ganddon ni weithdrefn lanhau drylwyr ar waith. Caiff yr holl fyrddau eu glanhau'n drylwyr rhwng archebion.
Yn unol â chyngor y Llywodraeth, ni chaniateir i chi aros am fwy na dwy awr.
Wrth ein desgiau croeso, a ledled yr adeilad, rydyn ni'n casglu manylion ar gyfer Tracio ac Olrhain y Gwasanaeth Iechyd. Bydd ganddon ni fanylion hefyd drwy'r systemau archebu bwrdd a'n Swyddfa Docynnau. Yn unol â chanllawiau diweddar y Llywodraeth, dewch â phrawf adnabod gyda chi ar gyfer eich archeb. Bydd angen i ni gymryd manylion cyswllt pob aelod o'r grŵp pan fyddwch chi'n cyrraedd. Rydyn ni'n monitro diweddariadau gan Lywodraeth Cymru, a byddwn ni'n addasu'n systemau yn ôl yr angen. I gael manylion ein Polisi Preifatrwydd Data, cliciwch yma.
Y drysau blaen yw'r unig allanfa o'r adeilad. Mae arwyddion i'ch tywys at yr allanfa.