Os oes gennych gwestiwn sydd heb ei ateb yma na chwaith yn y tudalennau Bwyd & Diod, Sinema, Oriel, Gwybodaeth am Docynnau, nac Hygyrchedd, anfonwch e-bost at enquiry@chapter.org ac fe wnawn ni eich ateb cyn gynted â phosib.
Oes. Mae'n rhaid i chi wisgo gorchudd wyneb pan fyddwch chi'n ymweld â ni. Yr unig bryd gallwch chi dynnu'ch gorchudd wyneb yw pan fyddwch chi'n eistedd wrth eich bwrdd yn y Caffi Bar. Mae rhai pobl wedi'u heithrio rhag gwisgo gorchudd wyneb.
Os nad oes modd i chi archebu ar-lein, dim ond wyneb yn wyneb all y staff wrth y Ddesg Wybodaeth gymryd archebion. Mae'n ddrwg ganddon ni na allwn ni gymryd archebion dros y ffôn bellach. Mae'n rhaid talu'n ddi-gyswllt. Ewch i'n tudalen Gwybodaeth am Docynnau i gael rhagor o fanylion.
Dim ond taliadau di-gyswllt rydyn ni'n eu derbyn wrth y Ddesg Wybodaeth ar gyfer tocynnau, ac ni fydd modd i chi dalu ag arian parod. Yn y Caffi Bar, os nad oes ganddoch chi ddim ffordd arall o dalu, gallwn dderbyn arian parod.
Dydyn ni ddim yn cynnig ad-daliad os na allwch chi ddod oherwydd COVID, ond gallwch amnewid eich tocynnau i ddangosiad arall os bydd tocynnau ar gael. Gallwch wneud cais i amnewid hyd at 24 awr cyn amser dechrau'r digwyddiad, drwy anfon e-bost at ticketing@chapter.org neu drwy adael neges ar y peiriant ateb wrth ffonio 029 2030 4400. Peidiwch â dod i Chapter os oes gennych symptomau COVID. I weld y telerau ac amodau llawn ar ad-daliadau tocynnau, credyd ac amnewid, ewch i'r dudalen Telerau ac Amodau.
Na fyddan. Am resymau iechyd a diogelwch, ni fyddwn ni'n argraffu deunydd rhestriadau na nodiadau rhaglen. Bydd pob ffilm a digwyddiad yn cael eu nodi ar ein gwefan o dan Digwyddiadau. Gallwch gofrestru i fod ar ein rhestr e-bost i gael gwybodaeth am y rhaglen i'ch mewnflwch.
Mae ein tîm Blaen y Tŷ ar gael ar bob adeg o'r dydd. Ewch i'r Ddesg Wybodaeth, sydd ar ochr chwith y brif fynedfa, a gofynnwch am y Rheolwr ar Ddyletswydd. Gallwch adnabod ein timau Blaen y Tŷ gan y byddan nhw'n gwisgo crysau Chapter.
Rydyn ni wedi lleihau'r capasiti ym mhob ardal. Rydyn ni'n caniatáu capasiti o ddim mwy na 8 o bobl yn yr Oriel. Rydyn ni wedi lleihau capasiti ein sinemâu, wedi cyflwyno seddi dynodedig, ac mae rhesi a seddi yn y sinema wedi'u tynnu er mwyn galluogi pawb i gadw pellter cymdeithasol. Rydyn ni wedi lleihau nifer y byrddau yn y Caffi Bar, ac maen nhw o leiaf 2 medr oddi wrth ei gilydd.
Na fydd. Mae ein siop ar gau am y tro.
Er mwyn archebu gofod cadair olwyn yn y sinema, bydd angen i chi gysylltu ag aelod o'n tîm. Ffoniwch 029 2031 1050 (gadewch neges ar y peiriant ateb os ydych chi'n cael trafferth cael ateb, a bydd rhywun yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib). Fel arall, gallwch archebu ar y safle wrth y Ddesg Wybodaeth (ar ochr chwith y brif fynedfa). Yn anffodus, nid yw ein system docynnau yn caniatáu archebu gofod cadair olwyn ar-lein ar hyn o bryd. Rydyn ni wrthi'n ceisio datrys hyn, felly cofiwch ddod yn ôl i weld a yw hyn yn newid.
Bydd. Mae'n bosib y byddwn ni'n cynnal digwyddiadau achlysurol yn yr awyr agored, a byddwn ni'n dilyn canllawiau'r Llywodraeth ar gyfer pob prosiect.
Rydyn ni'n casglu manylion ar gyfer Tracio ac Olrhain wrth ein desgiau croeso, a ledled yr adeilad. Bydd ganddon ni fanylion hefyd drwy'r systemau archebu bwrdd a'n Swyddfa Docynnau. Rydyn ni'n monitro diweddariadau gan Lywodraeth Cymru, a byddwn ni'n addasu'n systemau yn ôl yr angen. Mae manylion ein Polisi Preifatrwydd Data ar gael yma.