Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

Ymweliad

Sinema & Theatr

Sinema & Theatr

Rydyn ni’n cael ein cydnabod yn genedlaethol fel arweinydd diwylliannol sinema annibynnol yng Nghymru, ac rydyn ni’n cyflwyno’r goreuon o fyd ffilm Cymru, gwledydd Prydain ac yn rhyngwladol.  

Ochr yn ochr â’n dangosiadau rheolaidd, rydyn ni’n cyflwyno ystod o wyliau ffilm a thymhorau wedi’u curadu, gyda sgyrsiau, sesiynau holi ac ateb a digwyddiadau sydd â’r nod o gynnig dealltwriaeth ddyfnach i’n cynulleidfaoedd o’r broses artistig a’r diwydiant ffilm yn ehangach. 

Rydyn ni’n falch o fod yn Ganolfan Ffilm ar gyfer Cymru, yn un o wyth o ganolfannau ffilm ledled gwledydd Prydain, a ffurfiwyd fel rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm Sefydliad Ffilm Prydain.  Drwy Ganolfan Ffilm Cymru, rydyn ni’n cyflwyno mwy o ffilmiau, i fwy o bobl, mewn mwy o lefydd ledled y wlad. 

Rydyn ni’n credu bod sinema i bawb, ac mae mynediad wrth wraidd yr hyn rydyn ni’n ei wneud. Gallwch wylio Dangosiadau â Chapsiynau bob dydd, dod â’ch babi i ddangosiadau Sgrechiwch fel y Mynnwch bob dydd Gwener i weld ffilmiau newydd mewn amgylchedd sy’n addas i blant, ac rydyn ni’n cynnal Dangosiadau Ymlaciol bob wythnos i’r rhai sydd angen amgylchedd lle mae’n iawn i’r gynulleidfa wneud sŵn neu symud.  

Rydyn ni’n cefnogi addysg ffilm, gan arwain Academi Ffilm Sefydliad Ffilm Prydain yng Nghymru, ac rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau yn aml i annog datblygu doniau. Mae hyn yn cynnwys MovieMaker misol Chapter, sy’n edrych ar ffyrdd i mewn i’r diwydiant i artistiaid a gwneuthurwyr ffilm ifanc a newydd. 

Ar gyfer ymholiadau sinema, cysylltwch â Claire Vaughan, ein Rheolwr Rhaglen Sinema claire.vaughan@chapter.org 

Ymweliad