Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

BFI Film Academy

Rydyn ni’n darparu digwyddiadau, prosiectau a chyfleoedd ar gyfer gwneuthurwyr ffilm ifanc rhwng 16 a 25 oed ledled Cymru, fel y partner rhanbarthol ar gyfer Academi Ffilm Sefydliad Ffilm Prydain. Nod y rhain yw eich helpu i ddysgu mwy am ffilm, dod o hyd i’ch llais creadigol, a dechrau eich gyrfa yn y diwydiannau sgrin.

Dyma rai o’r pethau rydyn ni’n eu cynnig drwy gydol y flwyddyn:

  • Arddangosiadau ffilmiau byrion i gyflwyno eich gwaith ar y sgrin fawr
  • Digwyddiadau rhwydweithio i adeiladu eich cysylltiadau
  • Dosbarthiadau meistr a mentora gan weithwyr proffesiynol o’r diwydiant
  • Grantiau i ariannu ffilmiau byrion microgyllid newydd
  • Dangosiadau arbennig gyda chyflwyniadau gwadd a sesiynau holi ac ateb
  • Cymorth rhaglennu os hoffech guradu a/neu gynnal eich digwyddiadau ffilm eich hun

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech ddysgu mwy, anfonwch e-bost at [email protected]. Gallwch ymuno â’n rhestr e-bost yma.

A close-up of red velvet cinema screen curtains.

Canllaw Ffilm

Pori ein ffilmiau diweddaraf, gan gynnwys gwybodaeth hygyrch dangosiadau i'r teulu am ddim, ac ein ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch ar fore ddydd Gwener!

Lawrlwythwch yma