Llogi gyda ni

Mae Chapter yn elusen gofrestredig – drwy gynnal eich digwyddiad yma, byddwch chi’n ein helpu i barhau i gefnogi artistiaid Cymru a chymunedau creadigol drwy arddangosfeydd, digwyddiadau a chyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol.

Rydyn ni’n cynnig ystod o ofodau gwych, sydd ar gael saith diwrnod yr wythnos, y gallwch eu defnyddio ar gyfer cyfarfodydd, gweithdai, dosbarthiadau, ymarferion, perfformiadau, digwyddiadau arbennig, partïon preifat, neu hyd yn oed fel lleoliad ffilmio.

Bydd ein tîm Gwasanaethau Ymwelwyr wrth law i roi’r cymorth sydd ei angen arnoch i dynnu’r straen o drefnu digwyddiad.

Our spaces