Ein Tîm
Mae ein tîm cyfeillgar yn cynnwys staff ac ymddiriedolwyr profiadol ac ymroddgar sy’n gweithio i sicrhau eich bod chi’n cael y profiad gorau posib. Cysylltwch â ni drwy’r cyfeiriadur isod.
Os hoffech alw heibio a dysgu mwy am sut i gymryd rhan yn ein rhaglen, yna galwch heibio i’n sesiwn Cwrdd â’r Tîm.
Our Team
-
- Cyfarwyddwyr
- Rhaglenni
-
- Cyfarwyddwyr
- Cyllid ac Adnoddau
-
- Cyfarwyddwyr
-
- Cyllid ac Adnoddau
-
- Cyllid ac Adnoddau
-
- Datblygu Business a Chodi Arian
-
- Datblygu Business a Chodi Arian
-
- Rhaglenni
-
- Rhaglenni
-
- Rhaglenni
-
- Rhaglenni
-
- Rhaglenni
-
- Rhaglenni
-
- Rhaglenni
-
- Cyfathrebu a Marchnata
-
- Cyfathrebu a Marchnata
-
- Cyfathrebu a Marchnata
-
- Technegol
-
- Gwasanaethau Ymweld a Hurio
-
- Gwasanaethau Ymweld a Hurio
-
- Technoleg Gwybodaeth
-
- Adeilad a Stiwdio
-
- Caffi Bar
-
- Caffi Bar
-
- Taflunio
-
- Canolfan Ffilm Cymru
-
- Canolfan Ffilm Cymru
-
- Canolfan Ffilm Cymru
-
- Ymddiriedolwyr
Ewan Hilton
(ef/ei)Cadeirydd-Cyd dros dro
Ewan yw Prif Weithredwr Platfform for Change, sef elusen iechyd meddwl a newid cymdeithasol sy’n gweithio ledled Cymru a Lloegr.
Mae’n gweithio yn y sector gwirfoddol yng Nghymru ers symud i Gaerdydd yn 1989.
-
- Ymddiriedolwyr
Naomi Stocks
(hi/ei)Cadeirydd-Cyd dros dro
Mae Naomi yn weithiwr proffesiynol profiadol ym maes llywodraethu a chraffu.
Mae hi’n gweithio fel clerc seneddol yn Senedd Cymru ers dros 16 mlynedd, gan gefnogi ystod eang o wahanol bwyllgorau seneddol.
Yn fwyaf diweddar, hi oedd Clerc y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
Yn flaenorol, hi oedd arweinydd y Tîm Llywodraethu yn Stockport Homes. Gyda gradd mewn Drama o Brifysgol Aberystwyth, mae ganddi angerdd a diddordeb hirhoedlog yn y celfyddydau.
-
- Ymddiriedolwyr
Alun Jones
(ef/ei)Ymddiriedolwr
Alun Jones
(ef/ei)Ymddiriedolwr
Mae cefndir Alun mewn bancio masnachol ac mae’n Bennaeth Buddsoddi Cymdeithasol yng Nghyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru lle mae’n gweithio ers 14 mlynedd.
-
- Ymddiriedolwyr
Alia Ilyas
(hi/ei)Ymddiriedolwr
Alia Ilyas
(hi/ei)Ymddiriedolwr
Mae Alia yn arweinydd cyfathrebu strategol sydd â 25 mlynedd o brofiad o weithio ar draws y sectorau technoleg a chyfryngau.
Yn raddedig o Sefydliad Celf Courtauld gyda gradd mewn Hanes Celf, ac yn fyfyriwr Ôl-raddedig o Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd, mae hi’n cynnig cyfuniad o lythrennedd celfyddydau ac arbenigedd cyfathrebu masnachol.
Drwy gydol ei gyrfa, mae hi wedi arwain ymgyrchoedd materion cyhoeddus ac enw da mawr eu heffaith, gan helpu sefydliadau i lywio amgylcheddau polisïau cymhleth ac adeiladu cysylltiadau ystyrlon â chymunedau a llunwyr polisi. Mae ganddi brofiad helaeth o arwain trawsnewid digidol ar ran sefydliadau a chyfleu gwerth cymdeithasol technoleg i gynulleidfaoedd amrywiol.
Mae Alia, sydd o dras Bacistanaidd, yn eiriolwr angerddol dros wneud y celfyddydau yn hygyrch ac yn gynhwysol i bawb. Mae hi yr un mor ymrwymedig i ddod â chelfyddydau byd-eang i Gymru a meithrin arfer celfyddydol sy’n cael ei yrru gan y gymuned ar draws ei thirwedd ddiwylliannol amrywiol.
-
- Ymddiriedolwyr
Dela Anderson
(hi/ei)Ymddiriedolwr
Dela Anderson
(hi/ei)Ymddiriedolwr
Artist a chynhyrchydd o Gaerdydd yw Dela.
Mae ei harfer yn seiliedig ar greu printiau a phaentio i archwilio themâu cof, hiraeth a threftadaeth. Mae ei gwaith wedi cael ei gaffael gan y Llyfrgell Genedlaethol.
Mae Dela yn gweithio yn y sector elusennol fel cynhyrchydd gyda sefydliadau celfyddydol ac mewn rolau cyfathrebu ar gyfer sefydliadau datblygu byd-eang. Mae ei phrosiectau wedi amrywio o greu ffilmiau cyfranogol gyda phobl ifanc i ddylunio ymgyrchoedd eiriolaeth i ddylanwadu ar bolisi.
Ar hyn o bryd mae Dela yn gweithio i Sightsavers fel Cynhyrchydd Straeon, gan gydweithio â ffotograffwyr a gwneuthurwyr ffilmiau i gofnodi profiadau pobl sy’n rhan o’r frwydr fyd-eang dros hawliau anabledd.
Mae hi’n angerddol am wneud celf yn hygyrch i bawb.
-
- Ymddiriedolwyr
Howl Hubbard
(nhw)Ymddiriedolwr
Howl Hubbard
(nhw)Ymddiriedolwr
Ymarferydd cydweithredol, artist a chydlynydd prosiectau cymunedol yw Howl.
Maen nhw’n gweithio i gysylltu cymunedau cwiar drwy archwilio natur a gofodau yng Nghaerdydd – gyda ffocws ar lesiant, mynediad, deialog ac ailddychmygu hanesion safle benodol. Mae eu harfer cydweithredol yn cael ei arwain gan ddulliau ymatebol, rhyngddisgyblaethol, sy’n canolbwyntio ar y person ym maes celf, trefnu a llunio polisïau.
Nhw yw sylfaenydd y prosiect LHDTCRhA+ Garddio a chyfarwyddwr Lone Worlds CIC.
-
- Ymddiriedolwyr
Jane Scarth
(hi/ei)Ymddiriedolwr
Jane Scarth
(hi/ei)Ymddiriedolwr
Curadur a chynhyrchydd annibynnol sy’n byw ym Mryste yw Jane.
Cyn hynny roedd hi’n Guradur Rhaglenni Cyhoeddus yn Oriel Whitechapel (2017-2024), ac yn gyfrifol am ddigwyddiadau cyhoeddus gan gynnwys sgyrsiau, symposia a pherfformiadau, y rhaglen Awdur Preswyl a’r gyfres bodlediad Hear, Now.
Yn flaenorol, bu’n Rheolwr Preswylfeydd a Rhaglenni yn Sefydliad Delfina, lle roedd hi’n gyfrifol am raglenni cyhoeddus a phreswylfeydd yn Llundain gydag artistiaid rhyngwladol sy’n dod i’r amlwg ac sydd ar ganol eu gyrfa.
-
- Ymddiriedolwyr
Laura Williams
(hi/ei)Ymddiriedolwr
Laura Williams
(hi/ei)Ymddiriedolwr
Laura yw’r Pennaeth Cyfathrebu yn Senedd Cymru ac mae hi’n goruchwylio’r holl gyfathrebu allanol, gan gynnwys newyddion, cyfryngau cymdeithasol, y wefan a brandio.
Mae hi wedi treulio ei gyrfa ym maes cyfathrebu yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys yn swyddfa’r wasg Llywodraeth Cymru yn gweithio ar draws amrywiol bortffolios y llywodraeth, gan gynnwys rheoli’r cyfryngau ar gyfer y Prif Weinidog a sefydlu tîm cyfryngau cymdeithasol corfforaethol y sefydliad.
-
- Ymddiriedolwyr
Lauren Orme
(hi/ei)Ymddiriedolwr
Lauren Orme
(hi/ei)Ymddiriedolwr
Mae Lauren yn sylfaenydd i ddau sefydliad celfyddydol yng Nghaerdydd: Picl Animation, cwmni cynhyrchu masnachol sy’n creu animeiddio arobryn ar gyfer darlledu, ffilm a phrosiectau traws-gelfyddyd; a Gŵyl Animeiddio Caerdydd, menter gymdeithasol mae hi wedi’i harwain drwy ei thwf o ddangosiadau ar lawr gwlad i ŵyl ryngwladol lewyrchus a rhaglen drwy gydol y flwyddyn.
Ochr yn ochr â’i harweinyddiaeth sefydliadol a’i harfer greadigol, mae Lauren yn cyfrannu at y sector ffilm ac animeiddio ehangach fel cyd-arweinydd WIA UK, gan gefnogi cydraddoldeb rhywedd yn y byd animeiddio, a thrwy rolau ymgynghorol a gwaith rheithgor ar gyfer sefydliadau fel BAFTA a Gwobrau Rhyngwladol Emmy.
Mae Lauren yn dod ag ymrwymiad cryf i gynhwysiant, ochr yn ochr â phrofiad mewn rhaglennu, datblygu cynulleidfaoedd, ymgysylltu cymunedol, codi arian a datblygu partneriaethau masnachol a strategol.
-
- Ymddiriedolwyr
Stephen John Meade
(ef/ei)Ymddiriedolwr
Stephen John Meade
(ef/ei)Ymddiriedolwr
Cyfreithiwr gyda Capital Law yw Stephen ac mae’n aelod o’u Tîm Gweithredol, sy’n cyflawni strategaeth y cwmni a datblygiad dydd i ddydd y busnes. Mae hefyd yn arwain y gwaith o gyflawni eu Strategaeth Gwerth Cymdeithasol a Chynaliadwyedd.
Mae’n cynorthwyo ein bwrdd i lywio amrywiol faterion cyfreithiol a all godi fel rhan o’n gweithrediadau o ddydd i ddydd.