Cysylltwch

Cysylltu â ni!

Chapter
Heol y Farchnad
Treganna
Caerdydd
CF5 1QE

Desg wybodaeth: 029 2031 1050
Caffi Bar:
029 2035 5664

Cyffredinnol: [email protected]

Canmoliaeth

Gawsoch chi wasanaeth rhagorol gan ein staff? Wnaethoch chi fwynhau perfformiad, ffilm, arddangosfa neu ddigwyddiad, ac eisiau rhoi gwybod i ni sut roeddech chi’n teimlo? Oedd rhywbeth yn Chapter wedi golygu llawer i chi yn ddiweddar neu yn y gorffennol?

Rydyn ni bob amser yn falch o gael clywed pan fydd Chapter yn gwneud gwahaniaeth, felly mae croeso i chi rannu unrhyw ganmoliaeth drwy’r ffurflen isod.

Filter by tag
    • Cyfarwyddwyr
    • Rhaglenni

    Hannah Firth

    (hi/ei)

    Cyfarwyddwr Artistig a Cyd-gyfarwyddwr

    • Cyfarwyddwyr
    • Cyllid ac Adnoddau

    Sharon Stone

    (hi/ei)

    Cyd-gyfarwyddwr a Chyfarwyddwr Cyllid

    • Cyllid ac Adnoddau

    Marcia Hall

    (hi/ei)

    Cynorthwyydd Gweinyddol Cyllid ac AD

    • Datblygu Business a Chodi Arian

    Beki Pope

    (hi/nhw)

    Pennaeth Codi Arian

    • Rhaglenni

    Tom Bevan

    (ef/ei)

    Cynhyrchydd Cynhwysiant: Assemble

    • Cyfathrebu a Marchnata

    Nicole Mawby

    (hi/ei)

    Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata

    • Gwasanaethau Ymweld a Hurio

    Hope Radford

    (hi/ei)

    Pennaeth Gwasanaethu Ymweld

    • Gwasanaethau Ymweld a Hurio

    David Collins

    (ef/ei)

    Swyddog Gwasanaethau Ymwelwyr a Llogi

    • Technoleg Gwybodaeth

    Adam Woodall

    (ef/ei)

    Pennaeth Technoleg Gwybodaeth

    • Caffi Bar

    Amy Lucas

    (hi/ei)

    Cynorthwyydd Cymorth Gweinyddol Caffi Bar

    • Canolfan Ffilm Cymru

    Hana Lewis

    (hi/ei)

    Rheolwr Strategol y Ganolfan

    • Canolfan Ffilm Cymru

    Jade Atkinson

    (hi/ei)

    Cydlynydd Marchnata Aelodau (Canolfan Ffilm Cymru)

    • Ymddiriedolwyr

    Ewan Hilton

    (ef/ei)

    Cadeirydd-Cyd dros dro

    Ewan Hilton

    (ef/ei)

    Cadeirydd-Cyd dros dro

    Ewan yw Prif Weithredwr Platfform for Change, sef elusen iechyd meddwl a newid cymdeithasol sy’n gweithio ledled Cymru a Lloegr.

    Mae’n gweithio yn y sector gwirfoddol yng Nghymru ers symud i Gaerdydd yn 1989.

  • Naomi Stocks

    (hi/ei)

    Cadeirydd-Cyd dros dro

    Mae Naomi yn weithiwr proffesiynol profiadol ym maes llywodraethu a chraffu. 

    Mae hi’n gweithio fel clerc seneddol yn Senedd Cymru ers dros 16 mlynedd, gan gefnogi ystod eang o wahanol bwyllgorau seneddol. 

    Yn fwyaf diweddar, hi oedd Clerc y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. 

    Yn flaenorol, hi oedd arweinydd y Tîm Llywodraethu yn Stockport Homes. Gyda gradd mewn Drama o Brifysgol Aberystwyth, mae ganddi angerdd a diddordeb hirhoedlog yn y celfyddydau. 

    • Ymddiriedolwyr

    Alun Jones

    (ef/ei)

    Ymddiriedolwr

    Alun Jones

    (ef/ei)

    Ymddiriedolwr

    Mae cefndir Alun mewn bancio masnachol ac mae’n Bennaeth Buddsoddi Cymdeithasol yng Nghyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru lle mae’n gweithio ers 14 mlynedd.

    • Ymddiriedolwyr

    Alia Ilyas

    (hi/ei)

    Ymddiriedolwr

    Alia Ilyas

    (hi/ei)

    Ymddiriedolwr

    Mae Alia yn arweinydd cyfathrebu strategol sydd â 25 mlynedd o brofiad o weithio ar draws y sectorau technoleg a chyfryngau.

    Yn raddedig o Sefydliad Celf Courtauld gyda gradd mewn Hanes Celf, ac yn fyfyriwr Ôl-raddedig o Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd, mae hi’n cynnig cyfuniad o lythrennedd celfyddydau ac arbenigedd cyfathrebu masnachol.

    Drwy gydol ei gyrfa, mae hi wedi arwain ymgyrchoedd materion cyhoeddus ac enw da mawr eu heffaith, gan helpu sefydliadau i lywio amgylcheddau polisïau cymhleth ac adeiladu cysylltiadau ystyrlon â chymunedau a llunwyr polisi. Mae ganddi brofiad helaeth o arwain trawsnewid digidol ar ran sefydliadau a chyfleu gwerth cymdeithasol technoleg i gynulleidfaoedd amrywiol. 

    Mae Alia, sydd o dras Bacistanaidd, yn eiriolwr angerddol dros wneud y celfyddydau yn hygyrch ac yn gynhwysol i bawb. Mae hi yr un mor ymrwymedig i ddod â chelfyddydau byd-eang i Gymru a meithrin arfer celfyddydol sy’n cael ei yrru gan y gymuned ar draws ei thirwedd ddiwylliannol amrywiol. 

    • Ymddiriedolwyr

    Dela Anderson

    (hi/ei)

    Ymddiriedolwr

    Dela Anderson

    (hi/ei)

    Ymddiriedolwr

    Artist a chynhyrchydd o Gaerdydd yw Dela.

    Mae ei harfer yn seiliedig ar greu printiau a phaentio i archwilio themâu cof, hiraeth a threftadaeth. Mae ei gwaith wedi cael ei gaffael gan y Llyfrgell Genedlaethol.

    Mae Dela yn gweithio yn y sector elusennol fel cynhyrchydd gyda sefydliadau celfyddydol ac mewn rolau cyfathrebu ar gyfer sefydliadau datblygu byd-eang. Mae ei phrosiectau wedi amrywio o greu ffilmiau cyfranogol gyda phobl ifanc i ddylunio ymgyrchoedd eiriolaeth i ddylanwadu ar bolisi.

    Ar hyn o bryd mae Dela yn gweithio i Sightsavers fel Cynhyrchydd Straeon, gan gydweithio â ffotograffwyr a gwneuthurwyr ffilmiau i gofnodi profiadau pobl sy’n rhan o’r frwydr fyd-eang dros hawliau anabledd.

    Mae hi’n angerddol am wneud celf yn hygyrch i bawb.

    • Ymddiriedolwyr

    Howl Hubbard

    (nhw)

    Ymddiriedolwr

    Howl Hubbard

    (nhw)

    Ymddiriedolwr

    Ymarferydd cydweithredol, artist a chydlynydd prosiectau cymunedol yw Howl. 

    Maen nhw’n gweithio i gysylltu cymunedau cwiar drwy archwilio natur a gofodau yng Nghaerdydd – gyda ffocws ar lesiant, mynediad, deialog ac ailddychmygu hanesion safle benodol. Mae eu harfer cydweithredol yn cael ei arwain gan ddulliau ymatebol, rhyngddisgyblaethol, sy’n canolbwyntio ar y person ym maes celf, trefnu a llunio polisïau. 

    Nhw yw sylfaenydd y prosiect LHDTCRhA+ Garddio a chyfarwyddwr Lone Worlds CIC. 

    • Ymddiriedolwyr

    Jane Scarth

    (hi/ei)

    Ymddiriedolwr

    Jane Scarth

    (hi/ei)

    Ymddiriedolwr

    Curadur a chynhyrchydd annibynnol sy’n byw ym Mryste yw Jane. 

    Cyn hynny roedd hi’n Guradur Rhaglenni Cyhoeddus yn Oriel Whitechapel (2017-2024), ac yn gyfrifol am ddigwyddiadau cyhoeddus gan gynnwys sgyrsiau, symposia a pherfformiadau, y rhaglen Awdur Preswyl a’r gyfres bodlediad Hear, Now

    Yn flaenorol, bu’n Rheolwr Preswylfeydd a Rhaglenni yn Sefydliad Delfina, lle roedd hi’n gyfrifol am raglenni cyhoeddus a phreswylfeydd yn Llundain gydag artistiaid rhyngwladol sy’n dod i’r amlwg ac sydd ar ganol eu gyrfa.

    • Ymddiriedolwyr

    Laura Williams

    (hi/ei)

    Ymddiriedolwr

    Laura Williams

    (hi/ei)

    Ymddiriedolwr

    Laura yw’r Pennaeth Cyfathrebu yn Senedd Cymru ac mae hi’n goruchwylio’r holl gyfathrebu allanol, gan gynnwys newyddion, cyfryngau cymdeithasol, y wefan a brandio. 

    Mae hi wedi treulio ei gyrfa ym maes cyfathrebu yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys yn swyddfa’r wasg Llywodraeth Cymru yn gweithio ar draws amrywiol bortffolios y llywodraeth, gan gynnwys rheoli’r cyfryngau ar gyfer y Prif Weinidog a sefydlu tîm cyfryngau cymdeithasol corfforaethol y sefydliad.

    • Ymddiriedolwyr

    Lauren Orme

    (hi/ei)

    Ymddiriedolwr

    Lauren Orme

    (hi/ei)

    Ymddiriedolwr

    Mae Lauren yn sylfaenydd i ddau sefydliad celfyddydol yng Nghaerdydd: Picl Animation, cwmni cynhyrchu masnachol sy’n creu animeiddio arobryn ar gyfer darlledu, ffilm a phrosiectau traws-gelfyddyd; a Gŵyl Animeiddio Caerdydd, menter gymdeithasol mae hi wedi’i harwain drwy ei thwf o ddangosiadau ar lawr gwlad i ŵyl ryngwladol lewyrchus a rhaglen drwy gydol y flwyddyn.

    Ochr yn ochr â’i harweinyddiaeth sefydliadol a’i harfer greadigol, mae Lauren yn cyfrannu at y sector ffilm ac animeiddio ehangach fel cyd-arweinydd WIA UK, gan gefnogi cydraddoldeb rhywedd yn y byd animeiddio, a thrwy rolau ymgynghorol a gwaith rheithgor ar gyfer sefydliadau fel BAFTA a Gwobrau Rhyngwladol Emmy.

    Mae Lauren yn dod ag ymrwymiad cryf i gynhwysiant, ochr yn ochr â phrofiad mewn rhaglennu, datblygu cynulleidfaoedd, ymgysylltu cymunedol, codi arian a datblygu partneriaethau masnachol a strategol.

    • Ymddiriedolwyr

    Stephen John Meade

    (ef/ei)

    Ymddiriedolwr

    Stephen John Meade

    (ef/ei)

    Ymddiriedolwr

    Cyfreithiwr gyda Capital Law yw Stephen ac mae’n aelod o’u Tîm Gweithredol, sy’n cyflawni strategaeth y cwmni a datblygiad dydd i ddydd y busnes. Mae hefyd yn arwain y gwaith o gyflawni eu Strategaeth Gwerth Cymdeithasol a Chynaliadwyedd. 

    Mae’n cynorthwyo ein bwrdd i lywio amrywiol faterion cyfreithiol a all godi fel rhan o’n gweithrediadau o ddydd i ddydd.