Gwirfoddoli
Os ydych chi wedi bod i Chapter ac wedi cael eich cyfarch gan rywun wrth ddrws y sinema neu’r theatr, mwy na thebyg mai un o’n tywyswyr gwirfoddol gwych oedden nhw.
Ar hyn o bryd mae dros gant o aelodau’r gymuned o bob math o gefndiroedd yn rhan o’r tîm yma, ac maen nhw’n ein helpu i redeg y ganolfan yn llyfn bob dydd. Does dim amheuaeth y bydden ni ar goll hebddyn nhw.
Eisiau gwirfoddoli?
Ar ôl i chi gael hyfforddiant llawn mewn gweithdrefnau iechyd a diogelwch, gofynnwn i chi gofrestru am o leiaf ddwy sifft y mis. Mae gofyn i chi ymuno â’r gynulleidfa ar gyfer hyd y digwyddiad er mwyn monitro am unrhyw aflonyddwch neu broblemau, ond fel arall, gallwch fwynhau’r ffilm neu’r perfformiad byw.
Mae digonedd o gymhellion hefyd, gan gynnwys 10% i ffwrdd yn y caffi bar, dau docyn sinema am ddim y mis, a chyfle i ennill Credydau Amser Tempo i’w defnyddio yn Chapter neu mewn mannau eraill.
Canllaw Ffilm
Pori ein ffilmiau diweddaraf, gan gynnwys gwybodaeth hygyrch dangosiadau i'r teulu am ddim, ac ein ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch ar fore ddydd Gwener!