
- Ffilm
Carry on Screaming: Fallen Leaves (12A)
Dangosiad nesaf
- DS: Disgrifiadau Sain ar gael
- BABI: Rhiant a Babi
- IM: Is-deitlau Meddal
Rydyn ni’n arweinydd diwylliannol o ran sinema annibynnol yng Nghymru, ac yn helpu’r gynulleidfa i ymgysylltu â’r ffilmiau gorau o Gymru, gwledydd Prydain, ac yn rhyngwladol.
Film Hub Wales (FHW) aims to bring more films, to more people, in more places around Wales. Chapter is proud to be the Film Hub lead organisation for Wales.
Pori ein ffilmiau diweddaraf, gan gynnwys gwybodaeth hygyrch dangosiadau i'r teulu am ddim, ac ein ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch ar fore ddydd Gwener!
Rydyn ni’n dathlu ffilm yn ei holl ffurfiau, gan gynnig profiad sinema cyfoethog sy’n blaenoriaethu’r profiad sinema sgrin fawr, gan ddangos ffilmiau ar ffilm 35mm yn ogystal â ffilmiau digidol wedi’u taflunio â laser.
Ochr yn ochr â ffilmiau newydd, rydyn ni’n cyflwyno ystod o wyliau ffilm a thymhorau wedi’u curadu, gyda sgyrsiau, sesiynau holi ac ateb a digwyddiadau sy’n helpu i ysbrydoli creadigrwydd ymhlith ein cynulleidfa ac i sicrhau bod ganddon ni i gyd ddealltwriaeth ddyfnach o’r broses creu ffilmiau a mewnwelediad i’r diwydiant ffilm ffyniannus yma yng Nghymru.
Rydyn ni’n falch o fod yn Ganolfan Ffilm ar gyfer Cymru, yn un o wyth o ganolfannau ffilm ledled gwledydd Prydain a ffurfiwyd fel rhan o Sefydliad Ffilm Prydain: Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm. Drwy Ganolfan Ffilm Cymru, rydyn ni’n cyflwyno mwy o ffilmiau, i fwy o bobl, mewn mwy o lefydd ledled y wlad.