Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Cymuned Creadigol

Rydyn ni mor falch o fod yn gartref i gymuned ddeinamig o gwmnïau ac artistiaid preswyl, sy’n cynhyrchu gwaith sydd gyda’r mwyaf cyffrous yng Nghymru a gwledydd Prydain. Gan amrywio o animeiddio a dylunio graffeg, ffilm a theledu i theatr a chelf weledol, mae ein cymuned greadigol wrth wraidd popeth rydyn ni’n ei wneud. Rydyn ni’n aml yn cydweithio gyda nhw i gyflwyno a chynhyrchu gwaith comisiwn, digwyddiadau a gweithgareddau sy’n digwydd yma yn Chapter, felly cofiwch ddweud helo, a dysgwch fwy am beth maen nhw’n ei wneud isod.


Mae ganddon ni 43 stiwdio, sy’n gartref i dros 50 o breswylwyr, ac yn aml fe welwch lawer o breswylwyr ein stiwdios yn cwrdd yn y caffi bar neu’n dod at ei gilydd yn ein digwyddiadau cymdeithasol rheolaidd.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’n cymuned greadigol anhygoel a’ch bod am ddysgu mwy, cysylltwch â Myles Leadbeatter [email protected]. Cofiwch fod rhestr aros fer fel arfer, felly allwn ni ddim gwarantu y bydd stiwdio ar gael yn syth bob amser.

Apply for a studio

Cofiwch fod rhestr aros fer fel arfer, felly allwn ni ddim gwarantu y bydd stiwdio ar gael yn syth bob amser.

Creative community

Filter by tag

Ymunwch â'n rhestr bostio