Amdanom ni

Mae Chapter yn lleoliad ar gyfer diwylliant a chelfyddydau cyfoes, sydd â’i wreiddiau yng Nghaerdydd, Cymru.


Canolfan ryngwladol ar gyfer diwylliant a chelfyddydau cyfoes yw Chapter, sydd â’i gwreiddiau yng nghanol Caerdydd. Cafodd ei sefydlu gan artistiaid Christine Kinsey a Bryan Jones a ysgrifennwr Mik Flood yn 1971 i ddathlu arbrofi a meddwl radical, ac rydyn ni wedi bod yn sbardun ar gyfer creadigrwydd a meddwl beirniadol byth ers hynny.

Rydyn ni’n ganolfan ar gyfer cynhyrchu a chyflwyno gwaith arloesol, difyr, o safon fyd-eang. Mae ein horiel yn comisiynu ac yn cynhyrchu arddangosfeydd o’r gwaith gorau ym maes celf genedlaethol a rhyngwladol. Mae ein gofodau theatr yn llwyfan ar gyfer dramâu, dawns, cerddoriaeth, celf fyw a llawer mwy sy’n arbrofol ac yn ysgogi’r meddwl. Mae ein sinemâu yn cynnig ffilmiau annibynnol a heriol, ochr yn ochr ag ystod o wyliau a digwyddiadau unigryw, ac rydyn ni’n cyflwyno mwy o ffilmiau, i fwy o bobl, mewn mwy o lefydd, drwy Ganolfan Ffilm Cymru.

Ochr yn ochr â’n rhaglen graidd, rydyn ni hefyd yn gartref i 53 o artistiaid a chwmnïau creadigol sydd wedi’u lleoli yn ein stiwdios. O animeiddwyr a chwmnïau cynhyrchu ffilm sydd wedi ennill gwobrau, i artistiaid, dylunwyr a ffotograffwyr, ac i stiwdios fframio celf, printio, a recordio, mae ein cymuned greadigol wrth wraidd popeth rydyn ni’n ei wneud.

Mae ein rhaglen a’n cymuned yn dod at ei gilydd yn ein Caffi Bar clodwiw sydd â lle i tua 120 o bobl eistedd, ac mae’n lle gwych i gwrdd â ffrindiau, i ganfod cornel dawel i wneud ychydig o waith oddi cartref, neu i gael tamaid o fwyd a diod ffres a lleol.

Mae llawer o bobl yn ymweld â ni wrth fynd i ystod o ddosbarthiadau, gweithdai a digwyddiadau cyffrous sy’n cael eu cynnal gan wahanol fusnesau lleol bob dydd. Rhowch gynnig ar greu printiau, Lindy Hop, Tae Kwando, bale, tap, cerddoriaeth i fabanod, y gerddorfa ieuenctid, a llawer mwy, yn awyrgylch cynhwysol ein safle ymlaciol. Rydyn ni hefyd yn cynnig ystod o ofodau unigryw a rhesymol i’w llogi os ydych chi’n chwilio am safle ffilmio anarferol, lleoliad hygyrch ar gyfer cynhadledd neu gyfarfod, neu rywle i ddathlu achlysur arbennig.
 

About

  • Ymweliad

    Rydyn ni’n ymroddedig i wneud ein lleoliad yn hygyrch i bawb.

  • Cefnogi ni

    Fel elusen gofrestredig, mae haelioni ein hymwelwyr, ein cefnogwyr, ymddiriedolaethau, a sefydliadau yn ein helpu i ddod â phrofiadau cyffrous ym maes celf gyfoes, perfformiadau a ffilm i Gymru.

  • Llogi gyda ni

    Mae Chapter yn elusen gofrestredig – drwy gynnal eich digwyddiad yma, byddwch chi’n ein helpu i barhau i gefnogi artistiaid a chymunedau creadigol Cymru.

  • Cod Ymddygiad

    Tra byddwch yma, rydyn ni am i chi deimlo’n ddiogel, wedi’ch parchu, a bod modd i chi fwynhau eich profiad gyda ni.

  • Cymuned

    Rydyn ni’n gweithio i sicrhau bod cymuned wedi’i gwreiddio ar draws yr holl waith rydyn ni’n ei wneud.