Rydyn ni wedi diweddaru ein system docynnau'n ddiweddar.

Read more

Diweddariad ar ein system docynnau

  • Published:

Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed i wella eich profiad archebu ar-lein.

Rydym wedi symud ein system docynnau i Ticketsolve. Darllenwch fwy am beth mae hyn yn ei olygu:

Symud systemau

O 10pm ar 1 Mehefin ymlaen, byddwn yn mudo data i Ticketsolve.

Bydd gwybodaeth sydd ar eich cyfrif yn cael ei throsglwyddo, sy’n cynnwys eich cyfeiriad post, cyfeiriad e-bost a hanes archebu. Mae rhagor o wybodaeth am aelodaeth ar gael isod.

Er mwyn cydymffurfio â rheolau GDPR, ni fydd eich cyfrinair na'ch manylion talu yn cael eu trosglwyddo.

Unwaith y bydd y system newydd yn 'fyw'

Os oes gennych gyfrif gyda ni, bydd angen i chi ailosod eich cyfrinair drwy'r ddolen 'Ailosod eich cyfrinair'.

Bob tro y byddwch chi'n gwneud archeb, bydd angen i chi ychwanegu eich manylion talu.

Hoffem eich sicrhau bod eich data yn parhau i fod yn gwbl ddiogel ac wedi’i amgryptio.

Ffrindiau Chapter

Os ydych chi'n talu'n fisol, bydd eich buddion yn weithredol am y mis sy'n weddill. Yn anffodus, dydyn ni ddim yn gallu cynnig tanysgrifiad misol gyda'n system docynnau newydd am y tro. Byddwch yn cael e-bost adnewyddu ar ôl 2 Mehefin i gofrestru ar gyfer y cynllun blynyddol.

Os ydych chi'n talu'n flynyddol, bydd eich statws a'ch buddion Ffrindiau Chapter yn cael eu trosglwyddo a byddan nhw’n barod i'w defnyddio.

Clwb Chapter

Bydd eich statws a'ch buddion Clwb Chapter blynyddol yn cael eu trosglwyddo a byddan nhw’n barod i'w defnyddio.

Talebau anrheg

Bydd talebau anrheg yn cael eu trosglwyddo a byddan nhw’n barod i'w defnyddio.

Gallwch fewnosod eich cod taleb anrheg wrth y ddesg dalu.

Ni fyddwn yn gallu ailgyhoeddi talebau anrheg.

Credyd ar eich cyfrif

Bydd unrhyw gredyd ar eich cyfrif yn cael ei drosglwyddo a bydd yn barod i'w defnyddio.

Gallwch fewnosod eich cod credyd ar eich cyfrif wrth y ddesg dalu.

___

Diolch yn fawr am eich amynedd. Mae gennym ni lawer o nodweddion a chynlluniau newydd cyffrous ar y gweill gyda Ticketsolve dros yr ychydig fisoedd nesaf. Rydyn ni'n edrych ymlaen at eu rhannu nhw gyda chi.